Gwerth y byd yw Gareth Bale
 
Mae Gareth Bale wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobrau Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc Gorau’r Flwyddyn yn Uwch Gynghrair Lloegr. 

Os lwyddith y Cymro i gipio’r ddwy wobr yn yr un flwyddyn, mi fydd yn yr un cae ag Andy Gray a Cristiano Ronaldo sef yr unig ddau i gyflawni’r gamp yn y gorffennol. 

 Fe fydd asgellwr Tottenham yn wynebu cystadleuaeth frwd yn y ddau gategori gyda chwaraewr Arsenal, Samir Nasri, hefyd wedi cael ei enwebu yn y ddau gategori. 

 Bydd Gareth Bale hefyd yn cystadlu yn erbyn ei gyd-chwaraewr yn Tottenham, Rafael Van der Vaart, am wobr Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn. 

 Mae Carlos Tevez o Man City, amddiffynwr Man Utd Nemanja Vidic, chwaraewr canol cae West Ham Scott Parker a chwaraewr Blackpool  Charlie Adam i gyd yn y ras ar gyfer Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn hefyd. 

 Gweddill y cystadleuwyr am wobr Chwaraewr Ifanc Gorau’r Flwyddyn yw golwr Man City, Joe Hart, chwaraewr canol cae Arsenal, Jack Wilshere, Seamus Coleman o Everton a Nani a Javier Hernandez o Man Utd.