Bangor yw deiliaid Cwpan Cymru ers tair blynedd ar y trot
 Mae un o hyfforddwyr mwya’ profiadol Uwch Gynghrair Cymru yn rhagweld canlyniadau annisgwyl yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru y penwythnos hwn.

Y disgwyl yw y bydd y Seintiau Newydd – sydd ar frig y gynghrair – yn trechu Llanelli, a Bangor – sydd wedi ennill y gwpan dair gwaith yn y dair blynedd ddiwetha’ – yn maeddu Cei Connah.

Ond mae Tomi Morgan, hyfforddwr Caerfyrddin a dyn sydd wedi ennill Cwpan Cymru ei hun fel chwaraewr gyda Llansantffraid, yn gweld y potensial am sioc.

Llanelli v y Seintiau Newydd

Mae Tomi Morgan yn gweld bod gan dîm Andy Legg obaith yn erbyn unig dîm llwyr broffesiynol Uwch Gynghrair Cymru. 

“Er bod Llanelli wedi colli dwywaith yn erbyn y Seintiau Newydd y tymor hwn, fe allai unrhyw beth ddigwydd mewn gêm gwpan,” meddai.

“Roedden nhw’n anffodus i golli yn erbyn y Seintiau Newydd ar Barc Stebonheath.  Roedden nhw wedi methu sawl cyfle i sgorio ac fe fydd cymryd eu cyfleoedd yn allweddol yfory.  Fe allen nhw greu sioc.”

Fe fydd y gêm yfory yn cael ei chwarae ar gae Coedlan y Parc yn Aberystwyth, ac yn fyw ar raglen Sgorio S4C.

Fe allai’r lleoliad niwtral fod o fantais i Lanelli, yn ôl Tomi Morgan.

“Mae’r Seintiau Newydd yn chwarae’n dda adref ar eu cae artiffisial, ond maen nhw wedi cael ychydig o drafferthion yn chwarae i ffwrdd o gartref y tymor hwn,” meddai.

“Mae’r gêm yn cael ei chwarae ar Goedlan y Parc a does dim record dda gyda’r Seintiau Newydd yn chwarae yno, tra bod Llanelli wedi cael canlyniadau da yno.

“Ar bapur y Seintiau Newydd yw’r ffefrynnau ac mae gyda nhw’r momentwm ar hyn o bryd. Ond mae gan Lanelli siawns dda – maen nhw wedi bod yn chwarae’n dda yn ddiweddar hefyd.”

Bangor v Cei Connah

Fe fydd Bangor yn gobeithio ail-danio eu tymor yn dilyn sawl canlyniad siomedig sydd wedi gweld nhw’n disgyn oddi ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru. 

Ac mae Tomi Morgan yn credu y gallai Cei Connah fanteisio ar berfformiadau siomedig diweddar y Dinasyddion. 

“Mae Cei Connah yn dîm da ac maen nhw wedi cadw llawer o’u chwaraewyr ers disgyn allan o’r Uwch Gynghrair,” meddai.

“Mae eu capten, Craig Jones, yn absennol ac mae hynny’n ergyd gan ei fod yn chwaraewr dylanwadol. 

“Rwy’n credu y gallen nhw hefyd achosi sioc gan fod Bangor heb chwarae’n wych dros yr wythnosau diwethaf.

“Ond pe bai rhaid i mi ddewis y ddau dîm bydd yn chwarae yn y rownd derfynol, fe fydden i’n dweud Llanelli a Bangor.”

Y dwbwl?

Ar hyn o bryd mae’r Seintiau Newydd, Bangor a Llanelli yn ceisio ennill mwy nag un gystadleuaeth,  ond mae rheolwr Caerfyrddin yn credu y bydd hi’n anodd i’r un ohonynt gipio’r gwpan a chipio tlws Uwch Gynghrair Cymru. 

“Mae’n mynd i fod yn anodd i un tîm ennill mwy nag un gystadleuaeth,” meddai. 

“O ran y Seintiau Newydd rwy’n credu bydden nhw’n hapus i ennill y gynghrair er mwyn sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr gan mae dyna le mae’r arian.

“Mae’n dymor agored iawn ac mae siawns dda gyda’r tri ohonynt i ennill rhywbeth.”

Fe fydd Llanelli yn wynebu’r Seintiau Newydd ar Goedlan y Parc yn Aberystwyth tra bod Cei Connah yn herio Bangor yn y Rhyl.