Jlloyd Samuel (llun o wefan y chwaraewr)
Mae amddiffynnwr newydd Caerdydd, Jlloyd Samuel wedi dweud iddo ymuno gyda’r Adar Glas i’w helpu ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr. 

Mae’r amddiffynnwr ar fenthyg o Bolton Wanderers am weddill y tymor ac mae newydd wella o anaf oedd wedi cadw ar yr ystlys am dros bum mis. 

“Rwyf wedi dod yma i chwarae gemau ac rwyf am wella fy ffitrwydd yn ogystal â helpu Caerdydd i ennill dyrchafiad,” meddai Jlloyd Samuel. 

“Rwyf wedi bod allan am bum mis a hanner gydag anaf.  Roedd yn anodd ennill lle ‘nôl yn nhîm Bolton oherwydd maen nhw wedi bod yn gwneud mor dda.  Doeddwn ni ddim yn awyddus i eistedd ar y fainc”

“Fe fydd y gemau gyda Chaerdydd yn dod yn aml ac mae’r Bencampwriaeth yn gynghrair dda nawr.  Rwyf wedi chwarae yn yr Uwch Gynghrair am y mwyafrif o’m gyrfa ond fe fydd hwn yn brawf da i mi”

“Rwyf wedi mwynhau fy hun hyd yn hyn.  Mae gan Gaerdydd bopeth yn ei le ar gyfer yr Uwch Gynghrair – mae’r cyfleusterau’n wych”

Fe fydd Caerdydd yn wynebu Derby ar y penwythnos ac mae Jlloyd Samuel yn credu y bydd angen perfformiad cadarn gan yr Adar Glas i sicrhau’r pwyntiau llawn. 

“Yn amlwg mae’n gêm sydd angen i ni ei hennill.  Dyma fydd y tro cyntaf i mi chwarae pêl droed yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd yn brofiad pleserus”

“Mae’r rheolwr wedi gofyn a ydw i’n ffit ac rwy’n gobeithio bod fy ffitrwydd yn ddigon da i chwarae rhan yn y gêm.”