Bathodyn y Crusaders
Mae chwaraewr y Crusaders, Michael Witt, wedi ei wahardd am un gêm a’i ddirwyo £300 am ddyrnu chwaraewr arall.
Fe gafodd y gŵr o Awstralia ei enwi gan banel disgyblu’r Rugby Football League am daro cefnwr Castleford, Richard Mathers, yn ystod y gêm dros y penwythnos.
Mae’r gwaharddiad yn golygu y bydd Witt yn absennol ar gyfer y gêm yn erbyn Salford nos Wener.
Chwaraewr newydd
Yn y cyfamser mae’r clwb Cymreig wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo chwaraewr y Dreigiau, Bradley Hill, ar gytundeb rhan amser.
Fe fydd y chwaraewr 18 oed yn chwarae i ail dîm y Crusaders ac fe fydd hefyd ar gael i chwarae dros Scorpions De Cymru.
Mae Hill eisoes wedi chwarae i dîm dan 16 y Crusaders cyn penderfynu dychwelyd i rygbi’r undeb gyda’r rhanbarth o Gymru.
“R’yn ni wrth ein bodd bod Bradley wedi ymuno gan ei fod yn chwaraewr yr oedden ni wedi gobeithio ei arwyddo ers amser,” meddai Pennaeth Perfformiad y Crusaders, Dan Clements.