Fabio Borini - ar fenthyg o Chelsew
Mae Abertawe wedi arwyddo blaenwr arall ar fenthyg – Fabio Borini, chwaraewr dan 21 oed i’r Eidal.

Fe fydd yn dod i Stadiwm Liberty o Chelsea tan ddiwedd y tymor, gan ddilyn yn ôl traed y blaenwr arall, Scott Sinclair.

Mae’n enghraifft arall o reolwr yr Elyrch, Brendan Rodgers, yn defnyddio’i gysylltiadau wrth i’r clwb bwyso am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Roedd yn gweithio i Chelsea o dan Jose Mourinho pan ddaeth Borini i Stamford Bridge o Bologna, ei glwb cartre’.

Ers hynny, mae’r blaenwr, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed ddiwedd y mis, wedi chwarae bedair gwaith i dîm cynta’ Chelsea a 25 o weithiau i’r Eidal o dan 21.