Tîm Merched o dan-19 Cymru (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Mae tîm Merched o dan-19 Cymru wedi mynd drwodd i Rowndiau Elit Pencampwriaeth UEFA yn dilyn buddugoliaeth 6-0 yn erbyn Kazakstan.
Yn dilyn y canlyniad mae Cymru wedi cymhwyso fel un o’r pedwar tîm wnaeth orffen yn drydedd yn dilyn eu canlyniadau yn erbyn y ddau orau yn eu grŵp. Fe wnaethon nhw golli yn erbyn Lloegr 4-0 ond cafodd gêm gyfartal yn erbyn Slofenia.
Fe sgoriodd Cassia Pike ddwy gôl yn erbyn y gwesteion a oedd yn cynnal y rowndiau rhagbrofol cyn i Gwen Davies neud y sgôr yn 3-0 cyn yr egwyl. Ar ôl 62 o funudau sgoriodd Ella Powell gyda chic o’r smotyn, cyn i Daisy Evan-Watkins neud hi’n bump, sgoriodd Evan-Watkins yn yr amser ychwanegol i gael ei hail o’r gêm a chweched Gymru.
Bydd Cymru nawr yn edrych ymlaen at y rowndiau Elit a fydd yn cael eu chwarae ym mis Ebrill neu Fehefin 2018. Bydd y rowndiau Elit yn cynnwys saith grŵp o bedwar gydag enillydd y grwpiau yn ymuno â’r Swistir yn y rowndiau terfynol.
Tîm Merched Cymru
Yn St Petersburg heddiw (dydd Mawrth) bydd tîm Merched Cymru yn wynebu Rwsia mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd – bydd y gic gyntaf am 5yp.
Yn dilyn y fuddugoliaeth 1-0 yn erbyn Kazakstan fis diwethaf bydd tîm Jayne Ludlow yn gobeithio adeiladu ar y canlyniad yn erbyn tîm gafodd grasfa 6-0 gan Loegr yn eu gêm agoriadol.