Paul Clement (Llun TD - Golwg360)
Mae carfan bêl-droed Abertawe’n “anghytbwys”, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement, wrth ddweud y bydd rhaid gwella’r garfan pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor unwaith eto ym mis Ionawr.

Dim ond dwy gêm y mae’r Elyrch wedi eu hennill allan o wyth yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, a gwendidau ym mlaen ac yng nghefn y cae sy’n bennaf gyfrifol am hynny.

Dyw’r blaenwr newydd, Wilfried Bony, ddim wedi tanio ers iddo dychwelyd i’r clwb I gymryd lle’r sgoriwr cyson, Fernando Llorente, ac mae’r tîm yn dal i ddioddef ar ôl colli Ashley Williams yng nghanol yr amddiffyn fwy na thymor yn ôl.

O blith y chwaraewyr y mae Paul Clement wedi’u denu i Stadiwm Liberty ers yr haf, mae chwech ohonyn nhw’n chwaraewyr canol cae. A gwariant net yr Elyrch dros yr haf oedd yr isaf o holl dimau’r Uwch Gynghrair.

“Mae’r cydbwysedd ychydig yn anghywir oherwydd ein bod ni braidd yn drymach yng nghanol cae nag yr hoffen ni fod,” meddai Paul Clement.

Amddiffyn

Ers i’r Elyrch werthu Neil Taylor a Stephen Kingsley, dim ond Martin Olsson sydd ganddyn nhw’n gefnwr chwith cydnabyddedig.

“R’yn ni braidd yn brin yn y cefn, yn enwedig yn safle’r cefnwr chwith,” meddai Paul Clement. “Mae Martin [Olsson] yn chwarae a phwy sy’n ei wthio fe? Os oes yna broblem, pwy fyddai’n gallu camu i’r bwlch?

“Byddech chi’n gofyn i chwaraewr nad yw’n gefnwr chwith naturiol neu’n mynd lefel islaw yn y clwb. R’yn ni braidd yn anghytbwys yn hynny o beth.”

Anodd dewis

Yng nghanol y cae, mae Paul Clement wedi ei chael hi’n anodd dewis ei bedwar neu bump chwaraewr gorau gan fod cynifer o opsiynau ganddo fe.

Roedd ganddo fe Leon Britton, Leroy Fer, Ki Sung-yueng a Jay Fulton eisoes, ac fe ychwanegodd e atyn nhw drwy arwyddo Sam Clucas, Roque Mesa a Renato Sanches.

Ond mae’n ymddangos bod Paul Clement wedi colli ffydd yn ddiweddar yn Roque Mesa a Sam Clucas.

Prinder creadigrwydd

Ac o blith y chwech arall, mae prinder creadigrwydd yn broblem amlwg ac fe awgrymodd Paul Clement ei fod e’n rhwystredig â’r chwaraewyr sydd ganddo fe tan fis Ionawr.

“Mae gyda fi’r garfan sydd gyda fi tan 1 Ionawr, felly dim cwyno nac achwyn am y peth.

“Mae’n rhaid i fi fwrw ati ac efallai wedyn gallwn ni fynd i’r afael â’r problemau cydbwysedd pan ddaw mis Ionawr.”