Fe fydd y Sbaenwr yng nghanol cae tîm pêl-droed Abertawe, Roque Mesa yn cael ei gyfle i serennu yn y gêm yn erbyn Man U yng Nghwpan Carabao nos Fawrth.

Fe gadarnhaodd prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement y newyddion yn ystod ei gynhadledd wythnosol gerbron y wasg.

Dydy Roque Mesa, a gostiodd £11 miliwn dros yr haf, ddim wedi cael ei gynnwys yn y garfan yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Huddersfield a Chaerlŷr.

Ond mae Paul Clement wedi cyfaddef fod angen gwneud newidiadau i’r tîm yn dilyn cyfres o gemau siomedig.

“Dw i wedi dweud wrtho fe ei fod e’n mynd i ddechrau, ac mae e’n edrych ymlaen. Mae e wedi bod allan o’r garfan ar ddiwrnodau’r gemau ac mae e wedi cael ei siomi.

“Mae tipyn o ddyfalu wedi bod ynghylch pam mae e wedi cael ei adael allan ond mae e’n haeddu cyfle. Mae rhai wedi cwestiynu pam nad yw e wedi bod yn chwarae. Nid oherwydd y camgymeriad yn erbyn Watford oedd e.

“Mae e wedi bod yn ymarfer yn galed a dyma’i gyfle fe.” 

Sylwadau yn y wasg yn Sbaen

Mewn cyfweliad â’r wasg yn Sbaen, mae Roque Mesa wedi mynegi ei rwystredigaeth nad yw e’n cael digon o amser ar y cae.

Fe ddywedodd ei fod e’n fodlon bod yn amyneddgar, a’i fod e’n canolbwyntio ar y presennol.

Ond ychwanegodd: “Os ydw i’n parhau am ddeufis heb gael munudau [ar y cae], mae’n bosib y bydda i’n newid fy meddwl.”

Os felly, mae’n bosib y bydd y Sbaenwr yn chwilio am gyfle i adael pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor unwaith eto ym mis Ionawr.

Ond dydy’r sylwadau ddim yn gofidio Paul Clement – am y tro, o leiaf.

“Dw i ddim yn darllen gormod i mewn i’r peth,” meddai. “Roedd e fwy na thebyg o dan bwysau i ateb cwestiwn. Pe bai e wedi cael y cwestiwn ‘Ydych chi’n hapus i eistedd ar y fainc am y pedair blynedd nesaf?’ yna ry’ch chi’n gwybod beth fyddai’r ateb.”

Y dyfodol?

Yn ôl Paul Clement, mae Roque Mesa “yn mynd i gael cyfleoedd i chwarae”.

“Mae ganddo fe ddyfodol tymor hir ond mae’n dibynnu sut mae e’n perfformio dros gyfnod o amser. Mae ganddo fe gytundeb tymor hir ac ry’n ni eisiau iddo fe fod yma.

“Ro’n i’n credu y byddai’n cymryd amser i setlo, o wybod y steil a’r diwylliant y daeth e ohono fe. Dw i’n deall La Liga ac mae’n wahanol iawn. Mae e’n addasu ei gêm yn raddol a dw i’n siŵr y gwelwn ni [ei sgiliau] fory.”