Mae llywodraeth Qatar wedi cyhuddo cymdogion y wlad o fod yn “genfigennus” am eu bod nhw’n cynnal Cwpan y Byd yn 2022.
Maen nhw wedi amddiffyn penderfyniad FIFA i roi’r gystadleuaeth bêl-droed yng ngofal y wlad ymhen pum mlynedd, gan ddweud nad oes modd “trafod” y penderfyniad hwnnw.
Daw’r ffrae ar ôl i bedair gwlad Arabaidd – Bahrain, yr Aifft, Sawdi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) – gynnal boicot o Qatar am amryw o resymau.
Ymhlith eu pryderon mae cefnogaeth Qatar o eithafwyr, a’i chysylltiadau agos ag Iran. Ond mae Qatar yn parhau i wadu eu bod nhw’n cefnogi eithafwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod y boicot wedi’i gynnal “ar sail cenfigen bitw, ac nid ar bryderon go iawn”. Ychwanegodd fod y boicot yn “ymgais amlwg i danseilio ein hannibyniaeth”.
Mae rhai o’r gwledydd Arabaidd wedi awgrymu eisoes na ddylai Qatar gael cynnal Cwpan y Byd.