Mae pêl-droedwyr Cymru yn awyddus i Chris Coleman barhau’n rheolwr er iddyn nhw golli gêm dyngedfennol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd o 1-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Lun.
Cafodd y garfan a Chris Coleman gyfarfod yn eu gwesty nos Lun, ac mae’r chwaraewyr yn unfrydol o blaid eu rheolwr.
Ond mae e wedi dweud na fydd e’n gwneud penderfyniad am y tro, wrth i’w gytundeb presennol ddirwyn i ben yn yr haf.
Ond yn ôl Osian Roberts, dim ond Chris Coleman all benderfynu ei ddyfodol ei hun, ac fe ychwanegodd y gallai’r penderfyniad hwnnw ddibynnu ar a yw’r rheolwr yn teimlo y gall y garfan ddatbyglu ymhellach o dan ei arweiniad.
Mae disgwyl i Gymru groesawu naill ai’r Unol Daleithiau neu Fecsico i Gaerdydd fis nesaf ar gyfer gêm gyfeillgar, ac fe allai dyfodol Chris Coleman fod yn gliriach erbyn hynny.
“Ei ddyn ei hun ydi Chris Coleman ac mi fydd o’n penderfynu yn y pen draw be’ sy orau iddo fo ac i bêl-droed Cymru,” meddai Osian Roberts.
“Does dim dwywaith mai fo ydi’r rheolwr gorau yn hanes Cymru a does neb isio i hynny ddod i ben.
“Mi fydd y chwaraewyr sy’n dod drwodd yn cryfhau’r hyn sy gynnon ni, mae hynny’n destun cyffro iddo fo ac mae’n amlwg yn ffactor pwysig.”
Sêl bendith Gareth Bale
Un o’r chwaraewyr sydd wedi datgan ei gefnogaeth i Chris Coleman yn gyhoeddus yw Gareth Bale, oedd allan o’r garfan ar gyfer dwy gêm ragbrofol olaf Cymru.
“Wrth gwrs r’yn ni eisiau iddo fe aros. Mae’r hyn mae e wedi’i gyflawni dros y tîm a phêl-droed yng Nghymru wedi bod yn anhygoel.
“Allai e ddim bod wedi derbyn y swydd ar adeg fwy anodd ac mae’r hyn ry’n ni wedi’i gyflawni ers hynny wedi bod yn anhygoel.”
Roedd Chris Coleman wedi datgan mai hon fyddai ei ymgyrch olaf wrth y llyw, ond mae’n bosib bellach y gallai newid ei feddwl.
“Does dim amheuaeth fod Chris wrth ei fodd yn ei swydd,” meddai Osian Roberts wedyn.
“Mae o wedi dweud eich bod chi’n lwcus os cewch chi un cyfle yn eich bywyd i’w gwneud hi. Mae o wedi achub ar y cyfle hwnnw ac wedi creu hanes, a dw i’n sicr nad ydi o am i hynny ddod i ben.
“Mi fydd y penderfyniad yn un anodd beth bynnag mae o’n penderfynu, ond rheoli eich gwlad ydi’r freuddwyd o ran swydd.”