Chris Coleman (Llun:Joe Giddens/PA)
Mae disgwyl i hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru ystyried ei ddyfodol gyda’r tîm dros yr wythnosau nesaf wedi i ymgais Cymru i gyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Rwsia ddod i ben neithiwr.
Mae Chris Coleman wedi dweud yn y gorffennol y byddai’n rhoi’r gorau i hyfforddi’r garfan ar ôl i ymgyrch Cwpan y Byd ddod i ben.
Ac ar ôl i Gymru golli 1 – 0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon neithiwr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae disgwyl iddo drafod ei ddyfodol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, a hynny wedi iddo ddod yn hyfforddwr ar Gymru yn 2012.
‘Trafodaeth ymhen amser’
Mi ddywedodd Chris Coleman wrth y wasg wedi’r gêm neithiwr – “Ni allaf roi ateb yn awr…. Mi fydd trafodaeth ymhen amser ac mae fy nghytundeb yn para tan yr haf.”
Mae’n dweud ei fod am dreulio amser gyda’i deulu yn awr ac y bydd yn trafod gyda’r gymdeithas bêl-droed.
Bu’n rhaid i Joe Allen adael y cae neithiwr gydag anaf i’w ben ac mi ddisgrifiodd Chris Coleman ef yn chwaraewr “hanfodol i sut rydyn ni’n chwarae.”
Mae hefyd wedi llongyfarch rheolwr tîm Iwerddon, Martin O’Neill am “gynllun gêm dda” gan ddymuno’n dda iddyn nhw yn y gemau ail-gyfle ym mis Tachwedd.