Ben Woodburn (Llun oddi ar wefan tim pel-droed Lerpwl)
Er y daeth y cyhoeddiad ddoe bod Gareth Bale am fethu’r ddwy gêm ragbrofol nesaf i Gymru yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd, Rwsia 2018, mae cyn-ymosodwr y tim cenedlaethol yn credu bod gobaith o hyd.
Er nad ydi Cymru ddim wedi ennill gêm ragbrofol ers 2013 heb y dewin yn y tîm, fe gafodd Cymru gêm gyfartal yn Serbia ym mis Mehefin hebddo, meddai Malcolm Allen.
Ac er y byddai’r byd ar ben ar Gymru heb Gareth Bale rai blynyddoedd yn ôl, mae pethau wedi newid erbyn hyn, meddai wrth golwg360.
“I fod yn onest, dydi Gareth ddim wedi bod ar ei orau yn ystod yr ymgyrch hon,” meddai Malcolm Allan.
“Mae’n cario anaf ers tipyn, ond does dim pris ar ei bresenoldeb yn y garfan. Mi fydd hi’n golled enfarw, ond mae’r garfan yn gryfach y dyddiau hyn.
“Hefyd, ers pan mae’r grŵp wedi dechrau, y safle yma ydi’r agosa’ ydan ni wedi bod i Rwsia,” meddai Malcolm Allen. “Mae ganddon ni fomentwm, hyder ac agwedd benderfynol, a dw i’n siŵr y bydd Gareth yn annog a chynghori.
“Dydan ni ddim wedi chwarae ar y llwyfan mawr ers 1958, Cwpan y Byd ydi’r llwyfan hwnna, ac mi fydd rhai o’r chwaraewyr yn gwybod mai hwn ydi eu cyfle dwytha’ nhw i chwarae goreuon y byd.
“Rydan wedi deud bob gêm mai hon ydi’r bwysicach, wel rydan wedi cyrraedd y pwynt rŵan lle does dim lle am gamgymeriad.”
Dechrau efo Ben Woodburn
“Yn bersonol, dechrau efo Ben Woodburn, achos mae o wedi profi ei fod yn gallu perfformio ar y llwyfan rhyngwladol. Does gan Ben Woodburn ddim ofn, mae o wedi gosod safon.
“Ynglŷn ag David Brooks, ei gadw fo ar y fainc faswn i,” meddai Malcolm Allen wedyn, “a dod a fo ar y cae pe bai angen.
“Dw i’n falch bod Joe Ledley wedi arwyddo â Derby, roedd o angen chwarae, mae’n brofiadol ac yn allweddol yn ei safle yn tacluso, ac mae’n helpu’r ymosodwyr i beidio poeni am ildio’r meddiant.
“Wayne Hennessey ydi rhif un, ond mae Danny Ward yn ei herio… eto, dw i’n siŵr bod Ward yn rhwystredig â’i sefyllfa yn Lerpwl. Mae o angen chwarae’n gyson, mae Chris Coleman wedi dod a Chris Maxwell i mewn i’r garfan, yn sicr dod a fo i mewn am y profiad, jyst rhag ofn bydd sefyllfa yn y dyfodol lle bydd ei angen.”