Chris Coleman, (llun:Joe Giddens/PA)
Mae Chris Coleman wedi dewis ei dîm i wynebu’r ddwy gêm bwysig nesa’ a fydd yn penderfynu tynged Cymru yng Nghwpan y Byd.
Cyhoeddodd hyfforddwr y tîm pêl-droed cenedlaethol ei garfan 23 dyn heddiw ychydig dros wythnos tan gêm nesaf y crysau cochion.
Bydd Cymru yn teithio i Tbilisi i chwarae yn erbyn Georgia dydd Gwener, 6 Hydref, gyda dau wyneb newydd yn y tîm – gôl-geidwad Preston, Chris Maxwell a’r chwaraewr ifanc o Sheffield United, David Brooks.
Dyma hefyd fydd y gêm pan fydd y canolwr Aaron Ramsay yn ennill ei 50fed gap dros Gymru.
Bydd y garfan yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd tridiau wedi’r gêm yn Georgia i herio Gweriniaeth Iwerddon.
Dyma’r garfan lawn:
Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Chris Maxwell.
Amddiffynwyr: Ben Davies, James Chester, Neil Taylor, Chris Gunter, Tom Lockyer, Ashley Williams, Ethan Ampadu.
Canolwyr: Joe Allen, David Edwards, Andy King, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Jonathan Williams, David Brooks.
Blaenwyr: Gareth Bale, Marley Watkins, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Lawrence, Ben Woodburn.