Bangor 1–0 Cei Connah     
                                                               

Bangor aeth â hi wrth iddynt groesawu Cei Connah i Nantporth yn y frwydr tua brig Uwch Gynghrair Cymru nos Fawrth.

Cododd y Dinasyddion i frig y tabl gyda buddugoliaeth yn y gêm a oedd wedi ei ail threfnu yn dilyn trafferthion gyda’r lifoleuadau yn y gêm wreiddiol wythnos a hanner yn ôl.

Wedi hanner cyntaf cyffrous ond di sgôr, bu rhaid aros tan ugain munud o’r diwedd am unig gôl y gêm gan Gary Taylor-Fletcher.

Dylai Dean Rittenberg fod wedi dyblu mantais y tîm cartref wedi i George Horan ildio cic o’r smotyn hwyr ond methodd blaenwr Bangor o ddeuddeg llath.

Mae’r canlyniad yn codi’r Dinasyddion dros Gei Connah, Llandudno a’r Seintiau Newydd i frig tabl yr Uwch Gynghrair.

.

Bangor

Tîm: Roberts, Holmes, Kennedy, Wall, Miley, Gosset, Taylor-Fletcher, Allen, Wilson, Rittenberg (Harry 90+2’), Shaw

Gôl: Taylor-Fletcher 71’

Cerdyn Melyn: Gosset

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Edwards, Horan, Harrison, Morris, Wilde, Owen, Woolfe, Smith, Owen, Heath

Cardiau Melyn: Horan, Smith

Cerdyn Coch: Horan

.

Torf: 638