Mae’r asiantaeth bêl-droed rhyngwladol, FIFA, wedi codi’r gwaharddiad a oedd yn cosbi chwaraewyr am wisgo pabïau yn ystod gemau rhyngwladol.
Fe gafod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr oll eu cosbi ym mis Tachwedd y llynedd yn ystod gemau cymhwyso Cwpan y Byd am fynd yn groes i reolau FIFA a gwisgo’r pabïau.
Yn ôl FIFA roedd y pabïau’n disgyn o dan eu rheolau i wahardd symbolau neu sloganau crefyddol, personol neu wleidyddol – gyda’r Prif Weinidog, Theresa May, yn beirniadu’r penderfyniad ar y pryd.
Bellach mae’r gwaharddiad wedi’i godi, ond mae FIFA yn tynnu sylw y dylai unrhyw fanylion ychwanegol ar grysau’r chwaraewyr i nodi digwyddiad arbennig gael sêl bendith y tîm arall yn gyntaf ac y dylent roi gwybod i’r trefnwyr o flaen llaw.
Cafodd Lloegr ddirwy o fwy na £35,000, tra bo Cymru a’r Alban wedi cael dirwy o fwy na £15,000 yr un a Gogledd Iwerddon £11,769. Mae’n ymddangos na chafodd y dirwyon hyn eu talu, ac y byddant yn cael eu hanghofio’n awr.