Er mai dau gamgymeriad amddiffynnol arweiniodd at goliau Watford yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe, mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi derbyn cyfrifoldeb am y canlyniad.
Collodd yr Elyrch o 2-1 – eu trydedd colled o’r bron yn Stadiwm Liberty.
Daeth y gôl fuddugol yn hwyr yn y gêm wrth i Richarlison fanteisio ar ddryswch yn yr amddiffyn.
Andre Gray oedd wedi rhoi’r ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond fe darodd Tammy Abraham yn ôl yn yr ail hanner ar ôl dod i’r cae yn eilydd.
Fe ddechreuodd yr Elyrch y gêm gyda thri amddiffynnwr canol – Alfie Mawson, Federico Fernandez a Mike van der Hoorn.
Ond fe ddaeth van der Hoorn oddi ar y cae ar yr egwyl, a daeth Abraham i’r cae yn ei le, wrth i’r Elyrch chwarae gyda dau amddiffynnwr canol a dau ymosodwr mewn siâp 4-4-2 yn hytrach na 5-4-1.
Dywedodd Paul Clement: “Fe chwaraeon ni’n wael iawn yn yr hanner cyntaf ac mae’n rhaid i fi dderbyn cyfrifoldeb am hynny oherwydd mai fi oedd wedi dewis siâp y tîm.
“Fi oedd wedi dewis y tîm ac roedd yn anghywir, a dw i’n credu ’mod i wedi gwneud y peth cywir wrth wneud y newidiadau hanner amser o ran ein siâp a’n personél.”
Pwynt yn Wembley
Roedd Paul Clement wedi canmol ei dîm ar ôl iddyn nhw sicrhau pwynt annisgwyl yn erbyn Spurs yn Wembley ddydd Sadwrn diwethaf.
Ond ar ôl dewis yr un tactegau, roedd gwallau wedi costio’n ddrud i’r Elyrch wrth i Alfie Mawson fethu â chlirio’r bêl cyn i Richarlison rwydo toc cyn y chwiban olaf.
‘Gêm 95 munud’
Dywedodd Paul Clement mai am 40 munud yn unig y gwnaeth ei dîm gystadlu.
“Dw i’n siomedig iawn dros y cefnogwyr, maen nhw wedi dod yma i weld eu tîm yn chwarae tair gêm gartref ac ry’n ni wedi colli pob un.
“Wrth edrych yn ôl, gêm 95 munud oedd hon, ond dim ond am 40 munud y gwnaethon ni chwarae. Dydy hynny ddim yn ddigon da.”