Paul Clement yw rheolwr Abertawe
Ar drothwy’r gêm gartref yn erbyn Watford yfory, mae hyfforddwr Abertawe yn cydnabod bod angen i’w dîm wella’r elfen ymosodol i’w gêm.

Ond mae Paul Clement yn falch iawn bod yr Elyrch yn amddiffyn cystal.

Fe gawson nhw gêm gyfartal oddi cartref yn Spurs y Sadwrn diwethaf, gan lwyddo i atal un o dimau cryfa’r gynghrair rhag rhwydo ar eu tomen eu hunain.

Dim ond un gôl mae Abertawe wedi ei hildio mewn pum gêm oddi cartref y tymor hwn.

Ac eto mae cwynion nad ydyn nhw yn sgorio digon, gyda’r chwaraewyr wedi methu â chael shot at y gôl mewn tair o’u pum gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn.

“Rydym yn gwybod bod angen i ni finiogi’r ochr ymosodol, ac rydan ni eisiau gwneud hynny mor fuan ag sy’n bosib,” meddai Paul Clement, hyfforddwr Abertawe.

“Ond wnaeth yr amddiffyn cadarn sydd ganddo ni ddim ymddangos o unman tros nos, fe ddaeth yn sgîl llawer o waith caled ar y cae hyfforddi.

“Rydw i yn ffyddiog y daw ochr ymosod ein gêm unwaith y byddwn ni wedi gwneud y gwaith a meithrin yr egwyddorion.

“Unwaith y gwnawn ni hynny, rydw i yn grediniol y byddwn ni yn dîm da.”

Fe gafodd Watford eu malu 6-0 ar eu tomen eu hunain gan Man City y penwythnos diwethaf.

Mae Paul Clement wedi rhybuddio ei dîm bod Watford am ddod i dde Cymru ar dân i wneud yn iawn am y chwip-dîn honno.

Abertawe v Watford am dri brynhawn yfory