Mae Wrecsam gartref heno yn erbyn tîm cyn-reolwr y Seintiau Newydd Craig Harrison.
Yn rhan o dîm hyfforddi’r tîm cartref bydd ei gyn-is-reolwr a’i ffrind, Carl Darlington.
Mae’r Dreigiau ar rediad da o ennill tair gêm ac un gêm gyfartal a heb ildio gôl yn eu pedwar gêm ddiwethaf, ond mae Hartlepool hefyd ar rediad o dair buddugoliaeth yn olynol ar ôl dechrau tymor digon simsan.
Gyda Dover ar y brig a 17 pwynt mae Wrecsam yn drydedd gyda 16 pwynt, ac mae’n bosib iddyn nhw fod ar y brig pe bai canlyniad positif heno.
“Mae pethau wedi gwella ar y cae ar ôl dechrau tymor rhwystredig, “ meddai hyfforddwr tîm cyntaf Wrecsam, Carl Darlington wrth Golwg360.
“Bydd yn rhyfedd i weld Craig yn bloeddio am dîm arall, rydan ni’n ffrindiau da, ond tri phwynt i Wrecsam yw’r nod heno. Dw i’n falch bod o wedi cael y swydd ac wedi cael buddugoliaethau, ond rwy’n sicr os nawn ni ganolbwyntio ar chwarae ein hunain byddan ni’n ennill. Mae’r ddau dîm ar rediadau da ar hyn o bryd.”
Roedd Darlington yn rhan o dîm hyfforddi Wrecsam o dan Kevin Wilkin, a chafodd gyfnod byr fel rheolwr dros dro cyn gadael y clwb ym mis Mai 2015.
Cynghrair Gystadleuol
“Y ffaith yw does neb yn sefyll allan a rhedeg i ffwrdd â’r gynghrair, heb os mae’n gynghrair gystadleuol. Rydan ni fel clwb mewn lle da ar hyn o bryd, mae nifer o’r chwaraewyr ar gytundebau o ddwy flynedd, maen nhw’n gwybod lle maen nhw’n sefyll.
“Cynllun hir dymor sydd gan y clwb. Rwy’n hogyn lleol ac mae’n fraint i fi gael bod yma, mi gefais gyfnod byr yn 2015 fel rheolwr dros dro ond wnaeth pethe ddim gweithio allan, rwy’n deall disgwyliadau’r cefnogwyr – ond mae’n rhaid iddyn nhw aros gyda ni, a gwneud y Cae Ras yn lle anodd i wrthwynebwyr ddod. Dilyniant a chysondeb yw’r nod i ennill dyrchafiad.”
Gêm nesaf y Dreigiau fydd Guiseley gartref ddydd Sadwrn (16 Medi) am 3yp.