Mae tîm pêl-droed Newcastle wedi teithio i Abertawe heb eu rheolwr.

Maen nhw’n herio’r Elyrch yn Stadiwm Liberty heddiw (4 o’r gloch), ond roedd Rafa Benitez wedi penderfynu nad oedd e’n ddigon iach i deithio i Gymru.

Roedd wedi gadael ei gartref yng ngogledd-orllewin Lloegr cyn troi am yn ôl dair gwaith.

Ei staff cynorthwyol fydd yng ngofal y tîm ar gyfer y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr heddiw.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb y byddai’r tîm yn cael cyfarwyddiadau ganddo fe o bell.

Tîm Abertawe

Daeth cadarnhad y bydd Renato Sanches yn dechrau ei gêm gyntaf i’r Elyrch ond ar ôl dychwelyd i’r Liberty, dim ond lle ar y fainc sydd gan Wilfried Bony.

Mae cyn-chwaraewr yr Elyrch, Jonjo Shelvey ar y fainc i Newcastle.

Tîm Abertawe: Fabianski, Naughton, Fernandez (capten), Mawson, Olsson, Clucas, Sanches, Carroll, Fer, Ayew, Abraham. Eilyddion: Nordfeldt, Rangel, van der Hoorn, Roque Mesa, Routledge, Narsingh, Bony

Tîm Newcastle: Elliot, Clark, Lascelles, Murphy, Ritchie, Hayden, Perez, Manquillo, Joselu, Mercino, Gamez. Eilyddion: Woodman, Shelvey, Gayle, Diame, Lejeune, Yedlin, Atsu