Mae Renato Sanches, chwaraewr ganol cae Portiwgal a wnaeth gymaint o argraff yn yr Ewros yn Ffrainc llynedd, yn debygol o chwarae ei gêm gyntaf i’r Elyrch ddydd Sul. Mae Abertawe yn chwarae adref yn y Liberty yn erbyn Newcastle United.

Mae Wilfred Bony, sy’n dychwelyd i’r clwb, yn debygol o fod ar y fainc gan nad yw eto yn ddigon ffit.

Mae Sanches ar fenthyg am flwyddyn o Bayern Munich ac mi gyrhaeddodd y clwb ddydd Iau ar ôl bod i ffwrdd gyda charfan ryngwladol Portiwgal.

Bydd yr Elyrch heb Nathan Dyer (Achiles), Kyle Bartley (gewyn pen-glin) a Ki Sung-yueng (pen-glin) ond mae disgwyl i Jordan Ayew fod yn holliach unwaith eto wedi i broblem gyda’i ystumog ei orfodi i fethu’r gemau rhyngwladol diweddar gyda Ghana.

Ni fydd Mitrović yn chware i Newcastle ddydd Sul ond mae disgwyl y bydd Jonjo Shelvey, cyn-chwaraewr Abertawe, yn dychwelyd i’w hen glwb.

Carfan Debygol Abertawe: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Clucas, Fer, Carroll, Sanches, Ayew, Abraham, Nordfeldt, Rangel, Van der Hoorn, Britton, Mesa, Fulton, Narsingh, Routledge, Bony.