Fe fydd y sylwebydd pêl-droed, John Motson, yn rhoi’r gorau iddi ar ddiwedd y tymor ar ôl hanner canrif gyda’r BBC.
Ac yntau’n 72 oed ac wedi sylwebu ar gemau mewn 10 Cwpan y Byd, 10 pencampwriaeth Ewrop, 29 rownd derfynol Cwpan FA Lloegr a thros 200 o gemau Lloegr, fe fydd e’n sylwebu ar 18 o gemau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn ac yn ymddangos ar raglen y BBC ar gyfer rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.
Mae’n cael ei ystyried yn brif lais y byd pêl-droed yn Lloegr.
Dywedodd nad oedd yn dymuno parhau â’i yrfa’n rhy hir fel na fyddai’n ymddeol ar ei orau.
“Ro’n i eisiau gadael tra ’mod i’n sylwebu cystal – neu gynddrwg – ag ydw i wedi gwneud dros y blynyddoedd,” meddai.
“Dw i wedi gwneud chwech rownd derfynol Cwpan y Byd a dw i’n falch iawn o hynny gan fod [Kenneth] Wolstenholme ddim ond wedi gwneud pump ohonyn nhw.”
Fe ddaeth i amlygrwydd pan oedd yn sylwebu ar gôl enwog Ronnie Radford i Henffordd yn erbyn Newcastle yng Nghwpan FA Lloegr yn 1972.
Dywedodd ei fod yr un mor awyddus i “adael ar nodyn uchel”. Yr unig gêm fawr sydd ar goll o’i restr faith yw rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, a hynny am nad yw’r BBC erioed wedi ennill yr hawliau darlledu.