Pe na bai trafferthion ariannol wedi amharu ar glwb pêl-droed Caernarfon, mi fyddan nhw’n edrych ymlaen at eu trydydd tymor yn Uwch Gynghrair Cymru.

Enillodd y gynghrair yn nhymor 2015-16 ond Derwyddon Cefn oedd y cymwynaswr a thymor diwethaf oedd Prestatyn yn ben ac ysgwydd o flaen y gweddill.

Y tymor hwn,n mae rheolwr y cofis, Iwan Williams, yn benderfynol mai dyrchafiad yw’r nod.

“Mae’r gemau gyfeillgar wedi bod yn wych, roedd siom y tymor cynt dal yn feddyliau nifer o’r clwb tymor diwethaf, meddai wrth golwg360, “ond y tro yma, rydan ni’n dechrau â llechen lân – rydan ni’n gryfach yn feddyliol ac yn dactegol.”

Codi safon

“Rydan wedi cryfhau’r garfan yn dod a Rhys Roberts i mewn o Hotspur Caergybi, mae’n brofiadol a heb os mae wedi creu argraff – os ydi Jamie Breese yn ei ganmol, mae’n chwaraewr da,” meddai Iwan Williams wedyn.

“Mae Gareth Evans a Mark Griffiths wedi ymuno o Landudno a Chaersws, felly mae pawb yn cynnwys fi fy hun wedi gorfod codi’i safon. Heb anghofio bod Sean Eardley wedi ymuno â’r tîm hyfforddi.

“Mae Sean a finnau’n hen ffrindiau ac mae ganddo brofiad o weithio yn yr Uwch Gynghrair gyda Llandudno. Rydan ni’n bownsio syniadau oddi ar ein gilydd.

“O ran y gynghrair, mae am fod yn gystadleuol, dw i’n teimlo bod Airbus yn mynd i fod yn fygythiad heb anghofio Porthmadog, Rhyl a Threffynnon,” meddai

Bydd Caernarfon yn dechrau’r tymor oddi cartref ddydd Sadwrn, Awst 12, yn erbyn Penrhyncoch, gyda gêm gartref yr wythnos wedyn yn erbyn Hotspur Caergybi.