Mae gemau’r Bencampwriaeth yn eu holau y penwythnos hwn, ac mae’r Adar Gleision yn dechrau eu hymgyrch oddi cartref yn Burton.
Gyda thrafferthion ar ac oddi ar y cae yn y brifddinas dros y blynyddoedd, mae sefydlogrwydd rŵan gyda Neil Warnock wrth y llyw.
Mae Elin Thomas, sy’n stiward yn y stadiwm yn hapus â’r paratoadau dechrau tymor:
“Heb os, mae apwyntiad Warnock wedi bod yn benderfyniad doeth. Mae nifer wedi’u feirniadu dros y blynyddoedd ond mae wedi uno’r cefnogwyr a’r clwb.
“Roedd wedi dechrau cael perthynas á’r cefnogwyr at ddiwedd tymor diwethaf, ond mae’r chwaraewr yn cymysgu á’r cefnogwyr rŵan, mae’r clwb i weld yn trio eto,” meddai.
“Ac roedd wedi bod yn Cernyw gyda sesiynau ymarfer yn agored i bawb ac roedd wedi helpu Taffs Well yn chwarae gem gyfeillgar yno. Ar y cae dwi falch bod nhw wedi perswadio Bruno Manga i aros, mae’n chwaraewr o safon, rwyf yn optimist gawn dymor da.”
Fe ddaeth Neil Warnock i mewn y tymor diwethaf yn lle Paul Trollope. Ar ôl dechrau gwael i’r tymor, fe lwyddodd i sicrhau sefydlogrwydd, ac fe ddringodd Caerdydd y tabl a chodi gobeithion am y dyfodol gan orffen yn y 12fed safle.
Cyfnod tymhestlog
Mae wedi bod yn gyfnod tymhestlog yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda Malky Mackay yn 2013/14, ac roedd y perchennog Vincent Tan i’w weld eisiau chwalu’r clwb gan newid lliw y crysau o las i goch.
Mae ffefryn y cefnogwyr, Peter Wittingham, wedi gadel ar ôl degawd, ac fe adawodd Neil Warnock i chwaraewr rhyngwladol Cymru, Emyr Huws, symud i Ipswich, a Rickie Lambert i adael y clwb yn gyfan gwbwl. #
Tybed a oes le i’r hen ffefryn, Joe Ledley – sydd heb glwb ar hyn o bryd – ddod yn ôl i’r brifddinas? Yn ol pob son, maewedi gwrthod dau gynnig o Tsieina a Thwrci.
Mae Lee Camp yn mynd i wisgo crys rhif un, arwydd mai fo bydd y brîf olwr, ac mae amddiffynwr Cymru, Jazz Richards, yn aelod o’r garfan gyda Declan John.
Ond beth sydd o flaen Declan John? Dim ond un gêm mae wedi chwarae ers i Neil Warnock ymuno á’r clwb ac yntau yn ddim ond 22. Mae angen chwarae gemau i gael unrhyw gyfle o chwarae i’w wlad eto.
Mae gobeithion mawr i’r chwaraewr canol cae Lee Tomlin o Fryste sydd wedi arwyddo ar gytundeb tair blynedd.
Chwaraewyr newydd wedi arwyddo dros yr haf
Lee Camp; Neil Etheridge; Danny Ward; Loic Damour; Lee Tomlin; Callum Paterson a Nathaniel Mendez-Laing.