Borja Baston
Mae’r ymosodwr Borja Baston, sydd newydd symud ar fenthyg o Abertawe i Malaga yn Sbaen, wedi dweud bod y cyn-reolwr Bob Bradley “wedi gyrru’r chwaraewyr yn benwan”.

Cafodd y Sbaenwr ei brynu am £15.5m – sy’n record i’r Elyrch – ychydig cyn i’r rheolwr Eidalaidd Francesco Guidolin gael ei ddiswyddo.

Cafodd Bob Bradley ei ddiswyddo ar ôl 85 diwrnod wrth y llyw.

Dywedodd Borja Baston wrth wefan AS.com nad oedd ei brofiad yn Abertawe yr hyn roedd e wedi gobeithio y byddai, a bod y rheolwr Americanaidd yn rhannol gyfrifol am hynny.

“Ro’n i’n gyffrous iawn i fynd yno ar ôl y tymhorau ro’n i wedi’u cael yn Sbaen,” meddai. “Fe gyrhaeddais i fel y chwaraewr drutaf yn hanes Abertawe, a wnaethon nhw fyth roi’r cyfle i fi ddangos yr hyn o’n i’n gallu ei wneud.

“Mae gan Abertawe gryn dipyn o Sbaenwyr. Mae ganddyn nhw draddodiad Sbaenaidd erioed. Fe wnaeth pobol Abertawe fy nhrin i’n dda, roedd y cefnogwyr yn wych gyda fi, ac roedd fy nghyd-chwaraewyr yn 10/10.”

Profiad siomedig

Ond mae’n dweud bod bywyd yn Abertawe wedi suro rywfaint ar ôl i Francesco Guidolin gael ei ddiswyddo, a’r Americanwr Bob Bradley wedi dod i mewn yn ei le.

“Fe gyrhaeddais i ag anaf i fy mraich ges i yn Atletico [Madrid] ac wrth i fi wella, fe ges i broblem fach gyda fy nghyhyrau.

“Wnes i wella ar ôl hynny ac fe lwyddais i i chwarae mewn sawl gêm ond fe ddiswyddon nhw’r rheolwr [Francesco Guidolin] oedd wedi dod â fi i mewn.

“Roedd hi’n anodd oherwydd bod y rheolwr ddaethon nhw i mewn wedyn [Bob Bradley] yn gyrru’r chwaraewyr yn benwan. Fe wnaeth e dipyn o newidiadau a doedden ni ddim yn gwybod beth oedden ni’n ei wneud.”

Y dyfodol

Fe fydd Borja Baston yn treulio’r tymor hwn ar fenthyg yn ei famwlad cyn penderfynu beth i’w wneud yn y tymor hir.

Mae ei gytundeb â’r Elyrch yn dod i ben yn 2020, ond mae ei gytundeb gyda Malaga yn cynnwys opsiwn i symud yno’n barhaol am £10.7m.

Mae’n gwrthod datgelu ar hyn o bryd beth yw ei gynlluniau ar ôl y tymor hwn.“Dw i’n bwriadu ymroi’n llwyr i Malaga, cael tymor da a helpu’r tîm i orffen mor uchel â phosib. Dyna fy nod. Does gen i ddim cynlluniau y tu hwnt i hynny.”