Tom Cullen yn cadw wiced (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae’r Awstraliad ifanc Tom Cullen, sy’n fyfyriwr blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, wedi arwyddo cytundeb ddatblygu gyda Chlwb Criced Morgannwg tan ddiwedd y tymor.
Yn enedigol o Awstralia, mae’r wicedwr yn chwarae i dîm Prifysgolion Caerdydd De Cymru yr MCC ac i ail dîm Morgannwg.
Chwaraeodd i dîm cyntaf Morgannwg am y tro cyntaf ym mis Mehefin yn Swydd Durham pan oedd Chris Cooke wedi’i anafu, ac mae e wedi creu argraff gyda’i berfformiadau i’r ail dîm dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae e wedi chwarae mewn gemau dosbarth cyntaf i dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC, gan gynnwys gêm yn erbyn Morgannwg ddechrau’r tymor hwn.
Daw’r newyddion am ei gytundeb ar ôl i Brif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris ddweud ei fod e’n awyddus i weld mwy o Gymry yn y tîm.
Gyrfa
Ers symud o Awstralia i wledydd Prydain, mae Tom Cullen wedi cynrychioli Swydd Hertford, Swydd Wiltshire ac ail dimau Swydd Middlesex a Swydd Gaerlŷr.
Daeth ei flas cyntaf ar griced yng nghynghreiriau lleol Lloegr, cyn chwarae yn Uwch Gynghrair Swydd Middlesex ochr yn ochr â’r chwaraewyr rhyngwladol Mark Ramprakash a Corey Collymore.
Symudodd wedyn i Seland Newydd cyn dychwelyd i Uwch Gynghrair Gorllewin Lloegr, ac o’r fan honno yr enillodd ei le yn Academi Swydd Wiltshire.
Mae e hefyd wedi treulio cyfnod yn chwarae yng Nghynghrair Swydd Gaerhirfryn.
‘Gwireddu breuddwyd’
Dywedodd ei fod e wedi “gwireddu breuddwyd” wrth lofnodi’r cytundeb newydd.
“Dw i wrth fy modd yng Nghymru ac yng Nghaerdydd ac mae pawb wedi bod yn dda iawn i fi ers i fi gyrraedd dair blynedd yn ôl, felly dw i eisiau cyfrannu ac ennill gemau i Forgannwg.”
Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm criced Prifysgolion Caerdydd De Cymru, Mark O’Leary fod doniau Tom Cullen yn “brawf o werth cynllun Prifysgolion yr MCC”.
“Mae Tom wedi dilyn y trywydd delfrydol ar gyfer Prifysgolion Caerdydd De Cymru yr MCC.
“Doedd e ddim ynghlwm wrth unrhyw sir nac academi pan ddaeth e i’r brifysgol i ennill gradd.
“Mae e wedi perfformio’n dda iawn ac wedi denu sylw, sy’n brawf o werth cynllun Prifysgolion yr MCC. Dymunwn bob llwyddiant iddo fe.”