Mae dyfodol Gareth Bale yn Real Madrid yn ansicr unwaith eto, ar ôl i adroddiadau awgrymu nad oes gan Manchester City ddiddordeb yn yr ymosodwr Kylian Mbappe.
Roedd adroddiadau rai wythnosau’n ôl yn awgrymu y byddai’r Cymro’n gadael y Bernabeu pe bai ei glwb yn arwyddo’r chwaraewr ifanc o Ffrainc.
Sgoriodd Kylian Mbappe 26 gôl i Monaco y tymor diwethaf, ac mae lle i gredu bod y Sbaenwyr yn barod i dalu £161m amdano.
Roedd disgwyl i Manchester City gystadlu am ei lofnod – ond mae lle i gredu bellach eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i’w hymdrechion i’w ddenu i’r Uwch Gynghrair.
Mae’r ffenest drosglwyddo’n cau ar Awst 31.
Tymor anodd
Ar ôl chwarae rhan allweddol yn llwyddiant tîm Cymru yn Ewro 2016, cafodd Gareth Bale dymor anodd yn Sbaen y tymor diwethaf, yn dilyn cyfres o anafiadau.
Cafodd Isco ei ddewis yn ei le ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, ond fe ddaeth e oddi ar y fainc tua’r diwedd yn ninas ei febyd.
Mae Gareth Bale yn ennill oddeutu £350,000 yr wythnos ym Madrid, ac mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn 2022.
Mae Man U, Paris St Germain a Chelsea eisoes wedi mynegi diddordeb yn y Cymro.