Scott Ruscoe, rheolwr TNS
Roedd y pencampwyr o Groatia, HNK Rijeka, yn rhy gryf i’r Seintiau Newydd neithiwr – wrth iddyn nhw ennill 1-7 dros ddau gymal yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Bu’n noson siomedig i dîm Scott Ruscoe ar ôl canlyniad calonogol yn y cymal cyntaf. Dyma’r golled fwyaf i’r pencampwyr o Gymru ei dioddef ers 14 mlynedd – a hynny pan gollon nhw 0-5 yn erbyn Manchester City yng Nghwpan UEFA yn 2003.
Sgoriodd Rijeka eu gôl gyntaf ar ol 41 munud drwy Florentin Matei. Ar ôl yr egwyl sgoriodd Mario Gavranovic, Alexander Gorgon a Stefan Ristovski i roi’r ymwelwyr 0-4 ar y blaen, cyn i Adrian Cieslewicz sgorio gôl gysur i’r Seintiau. Yna, fe sgoriodd Mario Gavranovic ei ail o’r noson ar ol 79 munud, pumed Rijeka ar y noson.
Dywedodd rheolwr y Seintiau, Scott Ruscoe, ar ôl y gêm: “Am y 42 munud cyntaf, roedden ni’n wych. Roedd y cynllun yn gweithio, mi wnaethon ni gau’r bylchau a pheidio gadael nhw tu ôl ni.
“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi gwneud bob dim oedden nhw’n gallu… dw i wir yn siomedig efo’r canlyniad, ond a bod yn onest, does yna ddim mwy i’w ddweud.”