Fe gurodd y Seintiau naw dyn y tîm o Gibraltar, Europa FC, yn ystod amser ychwanegol i droi’r canlyniad y cymal cyntaf ar ei ben, 1-3 .

Ar ôl colli’r cymal cyntaf 1-2, roedd pwysau ar  y Seintiau ac fe aethon nhw ar y blaen ar ôl i Ivan Moya roi’r bêl yng nghefn ei rwyd ei hun. Fe lwyddodd Scott Quigley wedyn i roi’r tîm oddi cartref 2-0 ar y blaen; cyn i Liam Walker sgorio cic o’r smotyn ar 53 munud i unioni’r sgôr.

Ond fe lwyddodd Europa i gael dau gerdyn coch mewn munudau o’i gilydd i roi’r fantais i’r tîm o Groesoswallt. Rhwydodd Scott Quigley ei drydedd gôl o’r i roi’r Seintiau drwodd 4-3 dros y ddwy gêm.

Roedd y gêm yn garreg  filltir i gôl-geidwad y Seintiau, Paul Harrison, roedd yn chwarae’i 32 gêm yn Ewrop – ac fe fydd rheolwr y Seintiau, Scott Ruscoe, yn gwybod y bydd angen gwell perfformiad yn erbyn HNK Rijeka o Groatia yn yr ail rownd ragbrofol yr wythnos nesaf.