Mae’r Bala wedi arwyddo cyn-ymosodwr profiadol Cei Connah a Bangor, Les Davies sy’n 32.
Gyda gemau yn Ewrop ar y gorwel mae rheolwr Y Bala, Colin Caton, yn gwybod eu bod nhw angen carfan gref.
Mae Les Davies yn enw cyfarwydd i bawb sy’n ymwneud a phêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru, gyda record wych o sgorio goliau – 122 mewn 367 gêm.
Yn hanu o Fangor, mi ddechreuodd yr ymosodwr ei yrfa gyda chlwb Glantraeth ym Môn cyn ymuno â Bangor. Cafodd gyfnod byr gyda Phorthmadog cyn symud yn ôl i Fangor ble wnaeth ei farc gyda chlwb ei filltir sgwâr.
Daw Les Davies a digon o brofiad i’r Bala – mae wedi ennill Cwpan Cymru dair gwaith ac Uwch Gynghrair Cymru hefyd.