Mae rhagolygon y bydd dros 20,000 o bobol yn mynd i weld ffeinal Cynghrair y Pencampwyr i ferched heno, rhwng Lyon v Paris Saint-Germain, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ac mae trefnwyr yn gobeithio torri record ar gyfer y nifer yn gwylio gêm bêl-droed merched yn y brifddinas.
Gan eithrio cyfnod gemau’r Olympaidd yn 2012, does dim un stadiwm yng Nghaerdydd erioed wedi denu dros 3,000 o gefnogwyr i wylio gêm merched.
Ac yn ôl Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, mae’r rhagolygon da yn destun balchder ac yn adlewyrchu datblygiad a chynnydd ym mhoblogrwydd y gêm yng Nghymru.
“Y disgwyl ydy dros 20,000,” meddai Ian Gwyn Hughes wrth golwg360. “Mae’n rhywbeth gallwn fod yn falch ohono achos mae’n deg dweud fod hanes a thraddodiad y gêm merched yng Nghymru ddim mor gryf â hynny ond wedi datblygu’n aruthrol dros y pum mlynedd ddiwethaf.”
Gêm ar dwf
Mae un cefnogwr sy’n bwriadu mynd i weld gêm heno, ac wedi bod i sawl gêm menywod yn y gorffennol, yn gweld maint y dorf yn dystiolaeth bod y gêm ar dwf yng Nghymru.
“Mae’r gêm menywod ei hun yn gyffredinol wedi tyfu dros y tymhorau diwethaf,” meddai Rhys Evans.
“Dw i’n cofio gweld gemau cwpan y byd ar y teledu. Ry’ chi’n medru gweld bod e wedi tyfu tipyn. Mae gêm heno yn cwmpasu’r twf yna.”
Carwyn yn mynd heno
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, yn mynd i weld yr ornest rhwng merched Lyon a Paris Saint-Germain heno.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae Caerdydd a Chymru gyfan yn llawn cyffro wrth inni ddechrau ar ddathliadau Cynghrair Pencampwyr UEFA. Mae cefnogwyr o bedwar ban byd i’w gweld yn y ddinas yn barod, ac mae Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg i’w clywed ar y strydoedd.
“Heddiw, bydd Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn hoelio sylw’r byd ar bêl-droed menywod. Mae gan y digwyddiad gwych hwn y gallu i ysbrydoli menywod a merched o Gymru ac o bedwar ban byd i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed.”
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, sy’n gyfrifol am chwaraeon ar lawr gwlad:
“Mae rhyw 40,000 o fenywod a merched ledled Cymru yn chwarae pêl-droed yn rheolaidd. Mae denu rhagor o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon yn parhau’n un o’n prif flaenoriaethau, ac mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas
Pêl-droed Cymru am gynyddu’r niferoedd sy’n chwarae pêl-droed i 100,000 erbyn 2024. Mae Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn gyfle gwych i hoelio sylw ar bêl-droed menywod a bydd yn ein helpu i wireddu’r uchelgais honno.”
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, hefyd yn rhoi cymeradwyaeth i’r 1,500 o fenywod a merched o bob cwr o Gymru a fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Pêl-droed Genedlaethol Cymdeithas Pêl-droed Cymru i Fenywod a Merched. Bydd yn cael ei chynnal ym Meysydd Chwarae Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni ac mae’n rhan o Raglen Cymdeithas Pêl-droed Cymru i Ymgysylltu â’r Gymuned.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal bob blwyddyn a bydd timau o bob cwr o Gymru yn cystadlu o dan 8, 10, 12, 14, 16 ac mewn grwpiau oedran hŷn. Bydd pawb a fydd yn cymryd rhan ynddo eleni yn cael dau docyn rhad ac am ddim i wylio Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA.