Gyda dim ond deg diwrnod i fynd tan y bydd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA (UWCL) yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, mae’n debyg bydd y dorf eleni’n rhagori ar y rowndiau terfynol blaenorol.
Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn croesawu’r ddau glwb pêl-droed merched gorau yn Ewrop pan fydd Lyon, y pencampwyr presennol, yn wynebu Paris Saint-Germain ar ddydd Iau, Mehefin 1 mewn gêm a ddylai fod yn un penigamp ac yn ddathliad o’r gorau o bêl-droed merched.
Fe welodd torf o ychydig dros 15,000 Lyon yn ennill gornest ciciau o’r smotyn yn erbyn Wolfsburg yn
Reggio Emilia, yr Eidal yn Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2016 ac mae’r
dorf eleni yng Nghaerdydd yn debygol o fod yn uwch eto.
Gyda dros 15,000 o docynnau wedi’u gwerthu eisoes a’r cyffro’n cynyddu’n ddyddiol, mae gwerthiant tocynnau’n debygol o gynyddu’n sylweddol wrth i’r rownd derfynol agosáu.
Tocynnau
Fel rhan o’u hymrwymiad i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i wylio rownd derfynol
pêl-droed clwb Ewropeaidd, mae prisiau tocynnau wedi’u cadw mor isel â phosibl (Oedolion – £6/
Plant – £3) gyda gostyngiadau pellach i grwpiau er mwyn hybu clybiau ac ysgolion i deimlo’n rhan o
ddigwyddiad chwaraeon mwyaf Cymru.
Ar ddiwrnod Rownd Terfynol yr UWCL, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi trefnu Gŵyl
Bêl-droed Merched a Genethod Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Gyda dros 1,500 o chwaraewyr
benywaidd wedi’u cofrestru’n barod, dyma’r gystadleuaeth bêl-droed benywaidd mwyaf poblogaidd
erioed i’w chynnal yng Nghymru. Mae pob clwb sy’n cymryd rhan hefyd wedi derbyn cymhorthdal
teithio i annog chwaraewyr o bob cwr o Gymru i gymryd rhan.
“Annog merched ifanc”
Yn ôl Alan Hamer, Cyfarwyddwr Prosiect Pwyllgor Trefnu Lleol Caerdydd 2017: “Rhan allweddol o gynllun strategol CBDC yw tyfu gêm y merched er mwyn cynyddu cyfranogiad ac ymwybyddiaeth o lwybrau chwaraewr.
“Mae Rownd Derfynol UWCL yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â merched ifanc a’u hannog i ddechrau
chwarae pêl-droed.
“Mae poblogrwydd ein gŵyl bêl-droed ar y 1 Mehefin yn dangos y camau cadarnhaol sy’n cael eu
cymryd i ddatblygu pêl-droed merched yng Nghymru. Mae’r dorf sylweddol yn rownd derfynol UWCL 2017 hefyd yn dangos yr awydd cynyddol am y gamp.
“Rydym yn hyderus y bydd safon y pêl-droed yn creu cryn argraff ar unrhyw un sy’n mynychu’r rownd derfynol a’u gwneud yn awyddus i wylio a chwarae pêl-droed eto yn y dyfodol.”
Gŵyl Pencampwyr UEFA
Mae dydd Iau, Mehefin 1 hefyd yn nodi agoriad Gŵyl Pencampwyr UEFA ym Mae Caerdydd. Mae’r Ŵyl, sydd am ddim ac ar agor i’r cyhoedd, wedi dod yn rhan eithriadol o boblogaidd o brofiad Cynghrair Pencampwyr UEFA yn y blynyddoedd diwethaf.
Eleni, i annog hyd yn oed mwy o bobl i fynychu Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA, mae CBDC wedi trefnu bysiau gwennol am ddim rhwng yr Ŵyl a Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer Rownd Terfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA.
Dywed Karen Espelund, cadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA:
“Bydd unrhyw un sy’n mynychu’r rownd derfynol yn cael cyfle i weld dau o’r timau gorau ym mhêl-droed merched yn cystadlu ar y lefel uchaf. Mae’r awyrgylch yn y rownd derfynol bob amser yn gyfeillgar i deuluoedd.
“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y rownd derfynol eleni. Bob blwyddyn mae’r safon yn gwella.”