Gwyn Pen Uchaf ar y chwith ac yn gwisgo'r het Cymru
Os ydy Clwb Pêl-droed Y Bala am ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes, mae gofyn iddyn nhw gyflawni gwyrth fach ar gae Nantporth ym Mangor brynhawn Sul.

Yn eu ffeinal cyntaf erioed mae’r Bala yn wynebu’r Seintiau Newydd (TNS), pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru a chlwb sy’n mynd am drydydd trebl yn olynol.

Tra mae chwaraewyr y Bala yn hyfforddi unwaith yr wythnos am awr a hanner ar nos Fawrth, mae carfan y Seintiau Newydd yn llawn chwaraewyr proffesiynol sy’n hyfforddi yn ddyddiol.

Mae’r Seintiau Newydd ben ag ysgwydd uwchlaw pawb arall yn Uwch Gynghrair Cymru eto eleni, yn gorffen 27 pwynt ar y blaen i’r lleill a cholli deirgwaith yn unig drwy’r tymor.

Ac o gofio nad yw’r Bala erioed wedi curo’r Seintiau Newydd, mae hi’n edrych fel ffeinal hynod unochrog.

Ond mae un o gefnogwyr ffyddlona’r Bala yn dal i gredu bod buddugoliaeth yn bosib.

Mae Gwyn Jones, neu ‘Gwyn Pen Uchaf’ yn lleol, wedi bod yn sefyll ar ochr y cae yn gwylio’r Bala yn chwarae ar Faes Tegid ers dros 50 o flynyddoedd.

Ar ddiwrnod gemau cartref mae i’w weld yn sefyll wrth y fynedfa yn gwerthu raffl, ac mae wrth ei fodd yn cael helpu’r clwb ac yn credu bod gobaith o guro’r Seintiau Newydd am y tro cyntaf erioed.

“Mae yna fwy o siocs wedi bod yn y byd pêl-droed na’r Bala yn curo TNS,”  meddai Gwyn Jones.

“I’w curo nhw, mae yn rhaid i ni fod ar ein gorau, a hwyrach bod yn rhaid iddyn nhw fod below par.

“Y peth pwysicaf pan rydach chi yn cystadlu yn erbyn rhywun sy’n well na chi ydy, os ydach chi yn cael cyfle, mae’n rhaid i chi ei gymryd o. Achos tydyn nhw ddim yn dod yn aml.”

Goliath eisiau gôls

Wedi’r gêm gyffroes 6-4 dros y penwythnos, mae rheolwr y Seintiau Newydd yn cellwair y bydd y ffeinal b’nawn Sul “y gêm waethaf erioed – gêm ddi-sgôr sych gydag amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn!”

Ond yna mae Craig Harrison yn difrifoli a dweud y bydd ei dîm yn chwilio am chwip o berfformiad i goroni tymor disglair arall.

“O safbwynt TNS, rydan ni yn chwarae pêl-droed ymosodol ac yn ceisio sgorio cymaint ag y gallwn ni,” meddai.

Mwy am y gêm fawr yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Y gêm yn fyw ar Sgorio ar S4C – y gic gyntaf am 2 y p’nawn.