Cristiano Ronaldo (Llun: PA)
Gall un o sêr mwya’r byd pêl-droed, Cristiano Ronaldo ysbrydoli chwaraewyr Abertawe, yn ôl eu prif hyfforddwr, Paul Clement.
Daw ei sylwadau wrth i’r Elyrch baratoi ar gyfer cyfnod anodd rhwng nawr a diwedd y tymor.
Gyda chwe gêm yn weddill, mae’r Elyrch yn ddeunawfed yn y tabl, ddau bwynt y tu ôl i Hull gan wybod nad oes sicrwydd y byddan nhw’n aros yn y gynghrair uchaf hyd yn oed os ydyn nhw’n ennill pob gêm.
‘Credu’
Ond yn ôl Paul Clement, rhaid i’r chwaraewyr gredu eu bod nhw’n gallu goroesi, a dyna un o’r rhinweddau sy’n gwneud Cristiano Ronaldo yn gystal chwaraewr, meddai.
Roedd Paul Clement yn is-reolwr Real Madrid adeg rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2014, pan aeth dau dîm Madrid ben-ben â’i gilydd.
Dywedodd Paul Clement: “Dw i’n cofio rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Atletico Madrid. Roedd hi’n gêm anferth, yn gêm derfynol ac yn ddarbi mewn un.
“O’m safbwynt i, dydych chi byth yn gwybod os ydych chi’n mynd i gyrraedd y fan honno byth eto.
“Yn y twnnel, ro’n i’r tu ôl i Cristiano, yn edrych i fyny ar y tlws ar y podiwm, a lliwiau Atletico a Real arno.
“Roedd y tlws ar y podiwm, roedd yn edrych yn anhygoel. Ro’n i’n syfrdan ac fe edrychodd Cristiano dros ei ysgwydd a dweud ‘paid â phoeni Paul, wnawn ni ei ennill e’.
“Nawr, dyna i chi hyder. Do’n i ddim hyd yn oed yn chwarae ac ro’n i’n nerfus!
“Ond dyna sydd gan y chwaraewyr mawr, maen nhw wrth eu boddau gyda’r her o gystadlu neu frwydro am rywbeth ar adeg bwysig yn y tymor.”
Profiad
Mae gan yr Elyrch nifer o chwaraewyr profiadol yn y garfan, gan gynnwys Fernando Llorente, y Sbaenwr sydd wedi ennill Cwpan y Byd a’r Ewros, yr Archentwr Federico Fernandez sydd wedi chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Byd, a’r golwr Lukasz Fabianski sydd wedi ennill Cwpan yr FA.
Bydd y profiad hwnnw’n hanfodol rhwng nawr a diwedd y tymor, yn ôl Paul Clement.
“Mae gyda ni lu o chwaraewyr sydd â phrofiadau amrywiol.
“Mae rhai chwaraewyr wedi chwarae i glybiau mawr, ac mae Fernando Llorente yn enghraifft o hynny.
“Mae Tottenham yn glwb mawr ac mae nifer o’n chwaraewyr ni wedi chwarae iddyn nhw’n ddiweddar.
“Mae gyda ni chwaraewyr ifainc hefyd sy’n gymharol newydd i hyn i gyd ac sydd heb gymaint o brofiad yn yr Uwch Gynghrair.
“Yr hyn ry’ch chi’n gobeithio’i gael gan y chwaraewyr profiadol yw eu bod nhw’n ceisio codi hwyliau yn yr ystafell newid a rhannu eu cyngor a’u profiadau gyda’r rhai iau a’u helpu nhw.”
Y timau
Dydy capten tîm pêl-droed Abertawe, Jack Cork ddim ar gael ar gyfer y daith i Watford yn yr Uwch Gynghrair y prynhawn yma (3 o’r gloch).
Mae e wedi anafu ei ffêr unwaith eto, ac mae capten y clwb Leon Britton a’r chwaraewr ifanc Jay Fulton yn cystadlu am ei le yng nghanol y cae.
Ar ôl y golled yn erbyn West Ham, mae’r prif hyfforddwr Paul Clement wedi awgrymu y gallai newid siâp y tîm.
Mae newyddion tipyn gwell o ran yr ymosodwr Fernando Llorente, sy’n dychwelyd i’r tîm ar ôl anaf i’w ffêr. Roedd y Sbaenwr ar y fainc ar gyfer y gêm yn erbyn West Ham.