Llandudno 0–2 Aberystwyth
Aberystwyth aeth â hi wrth iddynt ymweld â Llandudno brynhawn Sul yn y frwydr yn hanner gwaelod Uwch Gynghrair Cymru.
Mark Jones a Malcolm Melvin a gafodd y goliau i’r ymwelwyr wrth iddynt godi o safleoedd y gwymp gyda thri phwynt ym Mharc Maesdu
Roedd pwysigrywdd y gêm i’r ddau dîm yn amlwg mewn hanner cyntaf nerfus ac roedd cyfleoedd da yn brin yn y ddau ben.
Fe gafodd Aberystwyth un serch hynny wedi deuddeg munud a gwnaeth Jones y gorau ohono wrth reoli croesiad Daniel Alfei yn y cwrt cosbi cyn rhwydo.
Fe rwydodd Jones eto o groesiad arall gan Alfei ar ddechrau’r ail hanner ond chafodd y gôl honno mo’i chaniatáu gan ei fod yn camsefyll.
Gwastraffodd Lee Thomas gyfle da i Landudno wedi hynny a gwnaeth Geoff Kellaway lanast o gyfle euraidd i Aber hefyd.
Fe ddaeth yr ail gôl o’r diwedd chwarter awr o ddiwedd y gêm wrth i Melvin orffen yn daclus wedi gwrthymosodiad chwim gan yr ymwelwyr.
Cafodd yr eilydd ifanc, Sion Ewart, gyfle i ychwanegu trydedd hwyr ond roedd dwy yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Aber.
Mae’r canlyniad yn codi Aberystwyth dros y Rhyl ac allan o’r ddau isaf gyda dwy gêm i fynd ac yn gwneud y gêm rhwng y ddau dîm ar Goedlan y Parc nos Wener yn un holl bwysig.
Mae Llandudno ar y llaw arall yn aros yn wythfed ond yn anhebygol iawn o ddal y Drenewydd yn y seithfed safle bellach.
.
Llandudno
Tîm: Roberts, Taylor, Shaw, Mike Williams, Hart, Hughes, Evans (Jones 72’), Buckley (Thomas 5’), Jago, Reed (McCaffery 82’), Marc Williams
Cardiau Melyn: Marc Williams 63’, Taylor 90+4′
.
Aberystwyth
Tîm: Mullock, Alfei, Wollacott, Rodon, Davies, Baker (Ewart 84’), Rimmer (Crowther 64’), Melvin, Kellaway (Owen 72’), Borrelli, Jones
Goliau: Jones 12’, Melvin 76’
Cerdyn Melyn: Borrelli 89’
.
Torf: 267