Caerdydd 2–1 Brentford                                
                                  

Tarodd Caerdydd nôl i guro Brentford yn Stadiwm y Ddinas yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl ond yr Adar Gleision aeth â hi yn y diwedd gyda goliau ail hanner Sean Morrison a Peter Wittingham.

Aeth Brentford ar y blaen dri munud cyn yr egwyl pan rwydodd Sergi Canos yn dilyn sodliad Konstantin Kerschbaumer.

Wnaeth hi ddim aros felly yn hir wedi’r egwyl cyn i Morrison benio’i dîm yn gyfartal o gic gornel Wittingham.

Wittingham ei hun a rwydodd y gôl fuddugol chwarter awr o’r diwedd, a thipyn o gôl oedd hi hefyd, hanner foli daclus wedi cyffyrddiad cyntaf effeithiol.

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, Richards, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Hoilett, Gunnarsson, Ralls, Harris, Wittingham (Halford 90’), Zohore (Pilkington 89’)

Goliau: Morrison 47’, Wittingham 76’

Cardiau Melyn: Wittingham 39’, Hoilett 88’

.

Brentford

Tîm: Bentley, Clarke, Dean, Barbet, Henry, Woods, Kerschbaumer (Yennaris 60’), Jota, Sawyers (McCormack 77’), Canos (Jozefzoon 77’), Vibe

Gôl: Canos 42’