Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael eu hannog i gynnal ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant hanesyddol o fewn y gamp gan fudiad sy’n gweithio ar ran dioddefwyr.
Daw’r alwad gan y mudiad sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, sef Stepping Stones, a hynny wedi i gymdeithasau pêl-droed yr Alban a Lloegr ddweud eu bod yn cynnal ymchwiliadau gyda mwy na 1,000 o achosion wedi’u cofnodi i’r heddlu ledled gwledydd Prydain.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth tri allan o bedwar llu heddlu Cymru ddweud eu bod yn cynnal ymchwiliadau o honiadau am gam-drin plant mewn gwahanol glybiau pêl-droed.
‘Hynod ddifrifol’
Mae llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud eu bod yn cymryd unrhyw honiad “yn hynod ddifrifol” a’u bod yn ymrwymedig i ddiogelu chwaraewyr.
Mudiad arall gafodd ei sefydlu ym mis Rhagfyr y llynedd oedd yr Offside Trust, ac yn ôl y cyfarwyddwr Steve Walters – “rydym wedi cael nifer o unigolion a chyn-chwaraewyr wedi’u lleoli yng Nghymru yn dod atom ni am gefnogaeth, ac oherwydd hynny rydym yn awyddus i weld ymchwiliad yn cael ei gynnal.”