Brendan Rodgers yn ei gyfnod gydag Abertawe (Llun: PA)
Mae cyn-reolwr a chyn-ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe’n dathlu yn yr Alban heddiw ar ôl i Celtic ennill yr Uwch Gynghrair ar ôl curo Hearts o 5-0 yn Tynecastle.

Mae Celtic bellach wedi ennill y tlws chwe thymor yn olynol.

Sgoriodd Scott Sinclair hat-tric, gan gynnwys dwy gôl o fewn tair munud i’w gilydd yn yr hanner cyntaf.

Y chwaraewr canol cae Stuart Armstrong sgoriodd y drydedd cyn i Patrick Roberts ychwanegu’r bedwaredd.

O’r smotyn y sicrhaodd Scott Sinclair ei drydedd gôl a phumed ei dîm saith munud cyn y diwedd.

Mae Celtic bellach yn ddi-guro mewn 30 o gemau’n olynol yn y gynghrair, gan ennill 28 ohonyn nhw – ac mae’r trebl yn dal yn bosib.