Sgoriodd Danny Batth ddwy gôl wrth i Wolves guro Caerdydd o 3-1 ar gae Molineux y prynhawn yma.

Daeth y gôl gyntaf o ben y capten cyn i Kenneth Zohore unioni’r sgôr gyda’i nawfed gôl mewn naw gêm.

Ond roedd Wolves ar y blaen unwaith eto cyn yr egwyl, gyda pheniad gan Danny Batth yn canfod y rhwyd unwaith eto.

A sicrhaodd y Saeson y fuddugoliaeth saith munud cyn diwedd y gêm drwy gôl unigol gan Helder Costa.

Dydy’r Adar Gleision bellach ddim wedi ennill gêm oddi cartref ers iddyn nhw guro Derby ym mis Chwefror.

Mae’r canlyniad yn eu gadael nhw’n bedwerydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth.

Wolves: Lonergan, Coady, Batth, Hause, Doherty, Edwards, Evans, Costa, Cavaleiro (Bödvarsson), Marshall (Saiss), Weimann (Saville)

Goliau: Batth (9, 41), Costa (82)

Cerdyn melyn: Marshall (69)

Caerdydd: McGregor, Richards, Morrison, Ecuele (Manga), Bennett, Bamba, Hoilett (Noone), Gunnarsson, Ralls (Whittingham), Harris (Pilkington), Zohore

Gôl: Zohore (12)

Torf: 20,519