Mae S4C wedi amddiffyn eu penderfyniad i ymddiheuro droeon am ddiffyg sylwebaeth Saesneg wrth iddyn nhw ddangos gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon wythnos yn ôl.
Fel arfer pan mae S4C yn dangos gemau pêl-droed a rygbi, mae cyfle i bwyso botwm coch er mwyn clywed sylwebaeth yn Saesneg.
Ond nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer gemau rhagbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd – mae’r gemau eisoes yn cael eu dangos yn Saesneg ar Sky Sports.
Ymddiheuriad yn cynddeiriogi
Yn ystod darllediad S4C o gêm ryngwladol Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ymddangosodd neges ar y sgrin yn dweud “ymddiheurwn am y diffyg sylwebaeth Saesneg”. Roedd y sylwebydd Nic Parri eisoes wedi egluro, yn Saesneg, nad oedd sylwebaeth Saesneg ar gael.
Bu cwynion ar wefan trydar am ymddiheuriad S4C ac mae un gwyliwr wedi mynd gam ymhellach â sgrifennu llythyr at gylchgrawn Golwg yn mynegi pryderon:
‘Ymddangosodd hysbysiad ysgrifenedig ar ein sgrin YN YMDDIHEURO nad oedd sylwebaeth Saesneg ar gael. Ac yn halen ar y briw, roedd yr hysbyseb hwn yn Saesneg AC YN GYMRAEG! Meddyliwch! Roedd awdurdodau’r Sianel yn ymddiheuro i’r Cymry Cymraeg nad oedd sylwebaeth Saesneg ar gael iddynt. A pham ymddiheuro p’un bynnag? Onid Sianel Gymraeg ydi S4C?
‘Ydi gwylwyr a chyfeillion S4C, tybed, yn sylweddoli bod y Sianel yn cynnal dwy set o sylwebyddion ym mhob gêm bêl-droed a phob gêm rygbi a ddarlledir? Dyna ddyblu’n ddianghenraid yr holl gost sylwebu o gyllid prin a phitw S4C i foddhau’r sawl sydd yn ymwrthod, am amryfal resymau, â’r sylwebaeth Gymraeg gynhenid. Pam cynnig sylwebaeth Saesneg ar sianel Gymraeg p’un bynnag?’
“Nifer fawr o bobol” yn holi am sylwebaeth Saesneg
Yn ôl S4C roedd “nifer fawr o bobol” wedi holi os oedd sylwebaeth Saesneg ar gael ac roedd “diffyg technegol” yn golygu ei bod hi’n ymddangos fel bod sylwebaeth Saesneg ar gael – er mai sylwebaeth uniaith Gymraeg gafodd ei ddarparu.
Mae S4C yn dweud bod angen ymddiheuro “ble roedd yr argraff yn cael ei roi fod sylwebaeth Saesneg ar gael”.
“Roedd nifer fawr o bobl yn holi, dros gyfryngau cymdeithasol, drwy e-bost a drwy ffonio Gwifren Gwylwyr os oedd ffrwd Saesneg ar gael,” meddai llefarydd ar ran S4C.
“Yn anffodus oherwydd diffyg technegol, i rai oedd yn gwylio ar lwyfan Sky, roedd yn ymddangos fel bod sylwebaeth Saesneg ar gael – ond pan roedd pobl yn defnyddio’r botwm coch i wrando, dim ond y sylwebaeth Cymraeg oedd ar gael.”
“Mewn ymateb i’r sefyllfa yna – ble roedd yr argraff yn cael ei roi fod sylwebaeth Saesneg ar gael – fe ymddiheurwyd.”
227,000 wedi gwylio “rhywfaint” o’r gêm ar S4C
Roedd awdur y llythyr i Golwg hefyd yn holi a ydy gwylwyr sy’n troi i’r gwasanaeth botwm coch yn rhan o gyfrif swyddogol niferoedd gwylwyr S4C gan nodi byddai’r fath sefyllfa yn “dwyll ac yn ffars”.
Mae S4C wedi ymateb gan ddweud: “Nid yw’n bosib mesur y nifer o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth Botwm Coch mwy nag ydi o i fesur y nifer sy’n defnyddio isdeitlau.”
“Er gwybodaeth fe wylio 277,000 o bobl rhywfaint o’r gêm ar S4C nos Wener ddiwethaf. Bydd S4C hefyd yn dangos gêm Serbia yn erbyn Cymru yn fyw ar 11 Mehefin, a gweddill gemau Cymru yn y rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 ym mis Medi a Hydref.”
Mae Phil Stead yn trafod yr ornest yn Nulyn, a phrofiad y cefnogwyr, yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg.