Cerdyn melyn i Gareth Bale, sy'n golygu na fydd yn cael chwarae yn Serbia (llun: BDC/Propaganda)
Pelláu mae rhagolygon Cymru o ennill lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf ar ôl methu â churo Iwerddon neithiwr.
Er mai Cymru a chwaraeodd orau am ran helaethaf y gêm, aeth pethau o chwith yn yr ail hanner, wrth i Neil Taylor gael cerdyn coch ar ôl tacl flêr yn erbyn capten Iwerddon, Seamus Coleman.
Torrodd Seamus Coleman ei goes yn y digwyddiad, a dywedodd Chris Coleman fod hyd yn peri gofid mawr i Neil Taylor.
“Dyw Neil Taylor ddim y math yma o chwaraewr,” meddai. “Mae wedi cael anaf difrifol ei hun. Mae’n fachgen teg a dymunol iawn.”
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi anfon neges at Seamus Coleman yn dymuno gwellâd buan iddo.
Er i Gareth Bale ddod yn agos iawn at sgorio unwaith, nid oedd ar ei orau neithiwr, ac ychydig iawn o gyfleoedd a gafodd i ergydio am y gôl. Cafodd gerdyn melyn hefyd, sy’n golygu na fydd yn gallu chwarae yn y gêm yn erbyn Serbia ym mis Mehefin.
Drwy fod Serbia wedi curo Georgia 4-0, nhw sydd ar frig y tabl bellach, gyda Chymru bedwar pwynt ar ôl, wedi ennill un yn unig o’r pum gêm hyd yma.