Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi dweud mai’r amddiffyn oedd y “peth mwyaf siomedig” am berfformaid ei dîm yn Hull brynhawn ddoe.

Collodd yr Elyrch o 2-1 ar ôl i Paul Clement fod yn brolio perfformiadau diweddar ei amddiffynwyr, sydd heb ildio’r un gôl o chwarae gosod ers iddo gael ei benodi ddechrau’r flwyddyn.

Wrth i’r Elyrch barhau i frwydro am eu lle yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, roedd Paul Clement yn awyddus i osgoi colli’r gêm.

Ond dau gamgymeriad amddiffynnol oedd y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli yn y pen draw.

Dywedodd Paul Clement: “Y peth dw i fwyaf siomedig yn ei gylch e yw’n hamddiffyn ni ar gyfer eu dwy gôl nhw.

“Roedden ni’n agored iawn ar gyfer y ddwy gôl, ond roedden ni wedi siarad cyn y gêm ac yn ystod hanner amser am fod yn dynn.

“Roedden ni am ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw fynd drwyddon ni.”

Anafiadau

Collodd yr Elyrch ddau chwaraewr allweddol oherwydd anafiadau yn ystod y gêm.

Daeth y cefnwr de Angel Rangel oddi ar y cae ar ôl hanner awr, a bu’n rhaid i’r amddiffynnwr canol Jordi Amat lenwi’r bwlch yn y cefn.

Toc cyn hanner amser, cafodd yr ymosodwr allweddol Fernando Llorente anaf i’w goes a bu’n rhaid iddo yntau ddod oddi ar y cae hefyd.

Daeth cyfle cynnar i’r Elyrch wedi’r egwyl wrth i Wayne Routledge ergydio dros y trawst

Ond Hull aeth ar y blaen wrth i’r eilydd Oumar Niasse ddarganfod y rhwyd wedi amddiffyn llac, ac fe sgoriodd y gŵr o Senegal ei ail gôl wyth munud yn ddiweddarach.

Er bod cryn dipyn o’r gêm yn weddill pan aeth yr ail gôl i mewn, bu’n rhaid aros tan yr amser a ganiateir am anafiadau cyn i’r Elyrch daro’n ôl, wrth i Alfie Mawson sgorio’i bedwerydd gôl yn yr Uwch Gynghrair.

Ychwanegodd Paul Clement: “Fe wnaethon ni wthio’n rhy hwyr. Ar ôl 80 munud, gyda phedair munud o amser ychwanegol, roedd 14 o funudau’n weddill.

“Ond wnaethon ni ddim gwthio go iawn tan ar ôl 88 neu 89 munud.”

Mae’r Elyrch driphwynt yn unig uwchben y tri safle isaf erbyn hyn, ac fe fyddan nhw’n herio Bournemouth yr wythnos nesaf.