Mae un tîm wedi cael sylw haeddiannol am eu campau’r tymor hyn yn Uwch Gynghrair Cymru, sef y Seintiau Newydd.

Ond mewn cynghrair is mae Clwb Tref Prestatyn hefyd wedi cael tymor i’w gofio.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill yr Uwch Gynghrair yn ddiweddar ond y tymor nesaf bydd Prestatyn yn sicr yn ymuno â nhw ar ôl colli ond un gêm y tymor hwn. Maen nhw’n herio Gresffordd yfory ac ond un pwynt maen nhw angen i ennill dyrchafiad.

Yn 2013 enillodd Prestatyn Cwpan Cymru ar y Cae Ras yn erbyn Bangor 3-1 ar ôl amser ychwanegol. Ar ôl ennill y gwpan a chwarae’n Ewrop lle wnaethon nhw guro Liepajas Metalurgs o Latfia yng nghynghrair Ewrop ar gicia o’r smotyn, er gwaethaf iddyn nhw fynd allan yn y rownd nesaf i HNK Rijeka o Groatia, roedden nhw wedi creu darn bach o hanes arall.

Daeth y llwyddiant i ben yn nhymor 2013-14 ac roedd arwydd o beth oedd am ddigwydd – dim ond am i Hwlffordd fethu â chael trywydd domestig wnaeth Prestatyn aros yn yr Uwch Gynghrair.

Ond  mi wnaethon nhw orffen ar waelod y gynghrair y tymor wedyn.

Mae hyfforddwr Prestatyn Neil Gibson, 37, yn hanu  o‘r dref ac wedi bod gyda’r clwb ers 11 mlynedd, ac mae wedi gweld y dyddiau da a sâl, ond bydd neb mwy balch na ‘Gibbo’ i weld nhw nôl yn  prif gynghrair Cymru tymor nesaf.

“Pam wnaethon ni fynd i lawr i gynghrair Huws Gray cawsom ni fel clwb gyfarfod,” meddai wrth golwg360. “Mi benderfynais aros, gyda Gareth Wilson yn fy helpu.  Roedd y clwb angen sefydlogrwydd.”

“Ond tymor yma mae’n rhaid i fi gyfadde’ rydan wedi synnu’n hunain heb sôn am bobl tu allan i’r clwb. Mae digonedd o dalent yn y clwb – ifanc a lleol. Fel mae’r tymor wedi mynd yn ei flaen maen nhw wedi credu yn eu hunain.”

Yn ddiweddar fe gollodd Prestatyn i Ddinbych – eu colled gyntaf o’r tymor.

“Roedd Dinbych yn haeddu ein curo,” meddai Neil Gibson. “Roedden nhw wedi cael gêm gyfartal â ni ar ddechrau’r tymor.  Ond dw i wir yn meddwl roedd y golled yn erbyn Cei Connah yng nghwpan Cymru ar y penwythnos  cynt wedi  amharu arnom ni, roedd yr hogiau wedi blino. Felly i fownsio nôl yn syth yn erbyn Penrhyncoch  oedd yn arwydd o gymeriad y tîm.

“Mae yna rywbeth arbennig gennyn ni yn y clwb. Rydan eisiau mynd nôl i fyny i’r Uwch Gynghrair ac ail sefydlu’n hunan. Rwyf fi ar glwb wedi cael blas ar Ewrop, ac uchelgais  hir dymor yw cael y profiadau yna eto. Hefyd gyda’r trafferthion ariannol y tymor hwn, lle’r oedd posib i’r clwb ddiflannu, mae wedi cryfhau ni fel clwb.”