Robin McBryde
Fydd “dim esgusodion” wrth i dîm rygbi Cymru herio Iwerddon yn ystod gêm Gynghrair y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd heno.

Dyna’r neges gan Robin McBryde sy’n hyfforddi’r tîm.

Mae pwysau cynyddol ar dîm Cymru wrth iddyn nhw wynebu’r posibilrwydd o golli tair gêm yn olynol yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2007.

Mae Rheolwr Cymru, Rob Howley, eisoes wedi derbyn beirniadaeth hallt, gan mai’r un tîm a gollodd yn erbyn yr Alban bythefnos yn ôl fydd yn wynebu’r Gwyddelod heno.

“Ry’ ni’n gobeithio fod y chwaraewyr wedi eu sbarduno gan y ffaith eu bod nhw’n cael cyfle arall a chyfle i wella eu perfformiad. Does dim newidiadau i’r tîm felly does dim esgusodion,” meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Robin McBryde.

Mae Iwerddon wedi ennill pump o’u wyth gêm Chwe Gwlad flaenorol yng Nghaerdydd, a’r Gwyddelod yw’r ffefrynnau i ennill yn erbyn Lloegr wythnos nesaf.