Robyn Jones, wnaeth chwarae i Sutton United
Mae Cwpan FA Lloegr wedi colli apêl yn ôl rhai, gyda rheolwyr yn chwarae timau gwan a thorfeydd isel, ond mae’r penwythnos hon wedi wfftio’r rheiny sy’n arddangos diffyg parch i’r gwpan gyda Lincoln City o’r gynghrair Genedlaethol (yr hen conference) yn trechu Burnley o’r Uwch-gynghrair.

Mae Lincoln wedi llwyddo i fod yn dîm cyntaf o du allan i’r cynghreiriau i gyrraedd yr wyth olaf ers 1914.

Mae llawer o siociau wedi bod dros y blynyddoedd yn cynnwys Hereford (Henffordd) – Newcastle yn  1972, Wrecsam  – Arsenal yn  1992 a phwy all anghofio  7 Ionawr 1989 pan gurodd Sutton United  o’r Conference  Covenry City o adran un  yn  y drydedd rownd o flaen torf o 8,000 yn Gander Green Lane.

Roedd Coventry ond 19 mis ynghynt wedi curo Tottenham Hotspur  yn Wembley mewn ffeinal bythgofiadwy 3-2.

Un o chwaraewyr Sutton y diwrnod hwnnw oedd Robyn Jones sy’n hanu o’r  Wyddgrug, a gydag Arsenal yn mentro i Gander Green Lane nos Lun, 20 Chwefror mae’r atgofion o faeddu Coventry dal yn felys.

Y dyddiau hyn mae Robyn Jones  yn Athro ym Mhrifysgol  Metropolitan Caerdydd, yn gadeirydd a chynorthwyo’r tîm sydd wedi synnu pawb y tymor hwn – Met Caerdydd. Mae gan Robyn Jones brofiad helaeth o hyfforddi timau dros y 30 blynedd diwethaf gan gynnwys Queens Park Rangers a Seland Newydd.

Ar y diwrnod, roedd dwylo Robyn yn llawn gan mai fo oedd yn delio â chwaraewr rhyngwladol  Yr Alban David Speedie, roedd tîm Coventry yn llawn sêr gyda’r Cymro David Phillips (sgoriodd gôl Coventry) Brian ‘Killer’ Kilkline, Cyrille Regis ac yn y gôl roedd Steve Ogrizovic. Gyda’r rheolwr profiadol John Sillet wrth y llyw.

Ond sut wnaeth gŵr o ogledd Cymru gyrraedd tref yn Ne Llundain?

“Roeddwn wedi symud i Lundain yn 1986 ac yn edrych am glwb pêl droed i ymuno â nhw, roeddwn yn nabod rheolwr Sutton, Barry Williams, felly gefais gyfle,” meddai Robyn Jones wrth Golwg360.

“Yn 1987 enillion ni Aldershot a Peterborough cyn colli i Middlesbrough yn y drydedd rownd ar ôl  gêm ail chwarae, felly roedden wedi cael blas o’r gwpan. Yn 1988/89 enillion ni Dagenham ac Aylsebury United cyn cwrdd â Coventry. Yn amlwg roedden nhw’n dipyn o dîm gyda chwaraewyr  o safon, ond roedd Barry Williams gyda strwythur i’w curo nhw. Mi weithiodd y strwythur i’r dim, gyda ni’n sgorio o ddau  symudiad gan Mickey Stephens – oedd yn rhoi’r bêl ar blât i’r sgorwyr.

“Roedd y munudau diwethaf fel oriau gyda thon ar ôl ton o ymosodiadau ganddyn nhw – ac ar y chwiban olaf roedden ni wedi defnyddio pob owns o egni oedd gennym ni.”

Cymryd ni’n ysgafn

“Roedden ni o’r farn bod Coventry heb ein cymryd o ddifrif, ond roeddan nhw’n wych gyda ni ar ôl y gêm. Roedden ni mewn sioc dwi’n meddwl. Roeddwn wedi blino cymaint dim ond peint gefais ar ôl y gêm a bu  bron i mi chwydu.

“Roedd sylw anferth ar y clwb wedyn ac roedd y gêm yn y rownd nesaf yn erbyn Norwich yn gêm wahanol, roedden nhw’n dîm da ar y pryd, a gartre roedden rhy gryf, ar ôl hanner awr oedd yn ddi-sgôr, ond ildion ni ddwy gôl sydyn a dyna hi. Roedd  Malcolm Allen ar dân yn sgorio pedair gôl, cyn i ni golli 8-0.”

Gyda gofynion gwaith y brifysgol tydi Robyn Jones methu mynd i’r gêm heno yn erbyn Arsenal. “Rwyf yn hynod o brysur gyda thîm y brifysgol, mae’r hogiau wedi bod yn wych gyda phawb yn helpu’i gilydd, mae ’na buzz o gwmpas y lle, rydan ni ddim yn y gynghrair i neud y rhifau fyny a’r nod hir dymor ydy targedu Ewrop.”

Cyfweliad: Tommie Collins