Mae anaf i asgellwr tîm pêl-droed Abertawe, Nathan Dyer yn golygu na fydd e’n chwarae am weddill y tymor.

Daeth e oddi ar y cae ar ôl saith munud o’r gêm yn erbyn Caerlŷr brynhawn ddoe ar ôl anafu ei ffêr.

Yn dilyn sgan, fe gafodd wybod fod angen llawdriniaeth ar ei ffêr.