Federico Fernandez (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae Federico Fernandez ar fin llofnodi cytundeb newydd i’w gadw gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe, yn ôl adroddiadau.

Mae’n debyg bod yr Elyrch wedi gwrthod cynnig sylweddol am yr amddiffynnwr canol o’r Ariannin yn ystod y ffenest drosglwyddo fis diwethaf.

Fe ymunodd e â’r Elyrch o Napoli yn 2014, ac mae e wedi sicrhau ei le fel un o ddau brif amddiffynnwr canol y tîm ers i Paul Clement gael ei benodi’n brif hyfforddwr ddechrau’r flwyddyn.

Partneriaeth amddiffynnol

Dywedodd wrth y BBC heddiw ei fod yn mwynhau ei bartneriaeth ag Alfie Mawson, a sgoriodd un o ddwy gôl Abertawe brynhawn ddoe wrth iddyn nhw drechu Caerlŷr o 2-0 yn Stadiwm Liberty i’w codi i’r pymthegfed safle.

“Mae Alfie yn gweithio’n galed bob dydd ar y cae ymarfer.

“Dw i’n ceisio aros yn agos i’w helpu fe wrth fy ochr i. Mae ganddo fe dipyn o botensial.

“Mae e’n foi ifanc. Fe fydd e’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair am flynyddoedd lawer, gobeithio.”