Y Bala 3–2 Bangor
Y Bala aeth â hi wrth i Fangor ymweld â Maes Tegid yn y frwydr rhwng trydydd a phedwerydd yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Cafwyd sawl penderfyniad dadleuol gan y dyfarnwr, Tom Williams, gyda’r tîm cartref yn elwa o un neu ddau o’r rheiny iennill gêm hynod gyffrous.
Hanner Cyntaf
Bangor a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn yr hanner cyntaf ond roedd cyfleoedd da yn y ddau ben.
Rhoddodd Lee Hunt y bêl yng nghefn y rhwyd i’r Bala ond dyfarnodd Tom Williams ei fod wedi troseddu wrth benio.
Cafodd Bangor gic o’r smotyn wedi i Conall Murtagh lorio Henry Jones ond methodd Gary Roberts o ddeuddeg llath.
Tarodd capten y Bala, Chris Venables, y trawst gyda chic rydd dda a methodd Dean Rittenberg ddau gyfle da â’i ben yn y pen arall wrth i’r hanner dynnu at ei derfyn.
Dynodwyd tri munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf ond cafodd dros bedwar eu chwarae cyn i Venables benio’r Bala ar y blaen o gic rydd Anthony Stephens.
Ail Hanner
Dechreuodd Bangor yr ail hanner yn addawol ac roedd angen arbediad da iawn gan Ashley Morris i wthio ergyd isel Henry Jones heibio’r postyn.
Ac roedd y Dinasyddion yn gyfartal o fewn eiliadau wrth i Danny Nardiello sgorio o’r gic gornel ganlynol er gwaethaf ymdrech Kieran Smith i glirio ei gynnig oddi ar y llinell.
Ceisiodd Mr Williams anfon Stuart Jones oddi ar y cae gydag ail gerdyn melyn wedi hynny cyn sylweddoli ei fod wedi drysu rhwng y ddau Stuart Jones yng nghanol amddiffyn y Bala – sgersli bilif!
Tarodd Jones a Ritteberg y trawst gyda dwy ergyd dda o du allan i’r cwrt wrth i Fangor bwyso am yr ail gôl. Adlamodd cynnig Rittenberg i lwybr Nardiello ond er i’r blaenwr rwydo fe ddyfarnwyd ei fod yn camsefyll.
Aeth y tîm cartref yn ôl ar y blaen wedi hynny gyda gôl ddadleuol arall, Stephens yn sgorio o’r smotyn wedi trosedd honedig Sergio Uyi ar Ian Sheridan.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr yn fuan wedyn wrth i Gary Roberts dderbyn cerdyn coch am drosedd warthus ar David Thompson.
Ymestynnodd Stuart J. Jones fantais y tîm cartref gyda pheniad o gic rydd Stephens, cyn i Rodrigo Branco gau’r bwlch gyda rabona gwbl ddiangen i rwyd wag wedi pas dreiddgar Brad Jackson.
Rhy ychydig rhy hwyr oedd gôl y Brasiliad serch hynny wrth i’r Bala ddal eu gafael ar eu tri phwynt.
Mae’r Bala yn aros yn drydydd yn nhabl yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y fuddugoliaeth ond gwahaniaeth goliau’n ung sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Chei Connah yn yr ail safle. Mae Bangor ar y llaw arall yn aros yn bedwerydd.
.
Y Bala
Tîm: Morris, Stephens, Stuart Jones, Stuart J. Jones, Irving, Murtagh, Wade, Venables (M. Jones 74’), Thompson, Smith (Hayes 85’), Hunt (Sheridan 36’)
Goliau: Venables 45+5’, Stephens [c.o.s.] 71’, Stuart J. Jones 79’
Cardiau Melyn: Stuart J. Jones 24’, Murtagh 26’, Smith 49’, Stuart Jones 62’
.
Bangor
Tîm: C. Roberts, Wilson (Metcalf 44’), Connolly, Uyi, Jones, Roberts, Gosset, Allen (Jackson 72’), Nardiello (Branco 87’), Rittenberg, Taylor-Fletcher
Goliau: Nardiello 54’, Branco 90+1’
Cardiau Melyn: Gosset 20’, Allen 29’, G. Roberts 70’, Metcalf 78’
Cerdyn Coch: G. Roberts 74’
.
Torf: 307