Ian Dawes (Llun oddi ar wefan Clwb Pel-droed Dinas Bangor)
Ar ôl cyffro Cwpan Cymru y penwythnos diwetha’, y gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru fydd honno rhwng Y Bala a Bangor.

Mae wedi bod yn dymor cyffrous yn Nantporth gyda’r perchenogion a dau reolwr newydd wrth y llyw. Mae Ian Dawes, y rheolwr wnaeth disodli Andy Legg yn niwedd Tachwedd 2016 wedi bod yn brysur yn y ffenestr drosglwyddo, ond mae nawr yn hapus â’i garfan ac yn canolbwyntio ar weddill y tymor.

Mae nifer o chwaraewyr wedi gadael Nantporth mis Ionawr yn cynnwys Brayden Shaw oedd ar fenthyg o Accrington Stanley o ail gynghrair Lloegr. Roedd colli Brayden Shaw yn ergyd, meddai Ian Dawes wrth golwg360.

“Roedd o’n chwaraewr o safon… ond roeddan ni’n gwybod mai yn ôl y basa fo’n mynd. Mae Jordan Davies, a oedd ar fenthyg o Wrecsam, wedi mynd i Brighton yn y bencampwriaeth, a Brayden yn syth i dîm cynta’ Accrington.

“Roeddan ni’n cadw golwg ar Gary Taylor-Fletcher am gyfnod hefyd, ac mi wnes i ei arwyddo fo oherwydd ei brofiad ar – ac oddi ar – y cae. Mae ei awch a’i agwedd at bawb yn y clwb yn wych. Mi fydd o’n help mawr i’r chwaraewyr ifanc, mae’n teimlo fel bod digon o amser ar ôl yn ei yrfa eto…”

Ewrop

Gyda gêm yn erbyn y Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru ar y gorwel, mae digon i gefnogwyr Bangor edrych ymlaen at weddill y tymor.

“Y nod oedd gorffen yn y chweched uchaf cyn y toriad,” meddai Ian Dawes. “Rydan wedi cyflawni hyn, a rŵan y nod ydi cyrraedd Ewrop y tymor nesa’, boed hyn trwy’r Gynghrair neu’r Cwpan.”