Caerdydd 2–0 Preston           
                                                           

Roedd goliau hanner cyntaf Wittingham a Zohore’n ddigon i Gaerdydd wrth iddynt guro Preston yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Mae’r Adar Gleision bellach un pwynt ar ddeg i ffwrdd o safleoedd disgyn y Bencampwriaeth yn dilyn eu trydedd buddugoliaeth gartref yn olynol.

Deunaw munud a oedd ar y cloc pan agorodd Peter Wittingham y sgorio o’r smotyn wedi trosedd Daniel Johnson ar Junior Hoilett yn y cwrt cosbi.

Dyblodd Kenneth Zohore’r fantais ddeg munud yn ddiweddarach gyda gôl unigol dda, yn curo sawl amddiffynnwr cyn codi’r bêl yn gelfydd dros y golwr, Chris Maxwell

Bu rhaid i Maxwell fod yn effro i atal Zohore rhag rhwydo ei ail ef a thrydedd ei dîm yn yr ail hanner ond roedd y ddwy gôl yn ddigon i Gaerdydd.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi tîm Neil Warnock i’r pymthegfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth, ddeg pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, Peltier (Connolly 45’), Morrison, Bamba (Healey 90+1’), Richards, Harris, Wittingham (Halford 79’), Gunnarsson, Ralls, Hoilett, Zohore

Goliau: Wittingham [c.o.s.] 18’, Zohore 28’

Cerdyn Melyn: Harris 64’

.

Preston

Tîm: A Pearson (Browne 78’), Johnson (Beckford 45’), Horgan (Robinson 66’), McGeady, Hugill

Cerdyn Melyn: McGeady 72’