Toby Jones - anafiadau wedi amharu ar ei gyfnod yng Nghaernarfon
Mae gêm fyw’r penwythnos ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru yn dod â dau glwb o’r gogledd at ei gilydd.

Fe fydd camerâu S4C ar yr Oval yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, Ionawr 28, wrth i’r Cofis o’r Cymru Alliance herio’r Rhyl o’r Uwch Gynghrair.

Y tro diwetha’ i’r camerâu fod ar yr Oval oedd yn 2014, pan fu bron i’r tîm cartref guro’r Seintiau Newydd. Roedden nhw ar y blaen 2-0 pan wnaeth wal tu ôl i’r gôl ddymchwel. Colli wnaeth y Cofis yn y diwedd o 2-3, ond mi wnaethon nhw greu cryn tipyn o argraff.

Cyn-chwaraewr

Yn wynebu’r Cofis nos Sadwrn fe fydd un o’u cyn-chwaraewyr, T0by Jones. Mae’r hogyn o Gonwy, sy’n 24 oed, yn teimlo na chafodd o gyfle i wneud cyfiawnder a’r cyfnod y treuliodd o yng Nghaernarfon, a hynny oherwydd anafiadau… ond mae’n falch o’i gyfnod efo nhw.

“Mae’n glwb gwych efo cefnogwyr angerddol,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n teimlo bod gen i rywbeth i’w brofi iddyn nhw. Oedd o’n drist iawn be’ ddigwyddodd i’r clwb ynglŷn â pheidio cael dyrchafiad y tymor diwetha’ oherwydd y problemau ariannol. Roedd y chwaraewyr wedi bod yn gyson drwy’r tymor.

“O safbwynt Y Rhyl, anghysondeb ydi’r broblem,” meddai wedyn. “Un wythnos canlyniad a pherfformiad da, ond wythnos wedyn, hunllef colli 10-o i’r Seintiau. Ond rydan ni’n chwaraewyr ifanc efo rheolwr ifanc, Niall Mcguinness, ac rydan ni wedi dysgu o’r hunllef.

“Dw i’n edrych ymlaen am y gêm, yn enwedig o dan y goleuadau a’r camerâu yno, ac yn sicr mi fydd yna awyrgylch cyffrous. Pe baen ni’n chwarae i’n potensial, mi fyddwn ni’n ennill,” meddai Tobyn Jones, “ond gêm gwpan ydi hi, felly ar y diwrnod, pwy a wyr?”

Mae’r gêm yn fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf 5.15yp